source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Yes. Llywydd, I understand you've given your permission for questions 3 and 11 to be grouped. I've made it clear that it is an absolute priority for our Government to maintain a sustainable steel making presence in Wales, and we are doing everything possible to ensure this happens. That means working closely, of course, with the UK Government.
Gwnaf. Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi eich caniatâd i gwestiynau 3 ac 11 gael eu grwpio. Rwyf wedi ei gwneud yn eglur ei bod yn flaenoriaeth bendant i'n Llywodraeth gynnal presenoldeb gwneud dur cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hynny'n golygu cydweithio'n agos, wrth gwrs, â Llywodraeth y DU.
Over the election period, First Minister, I and Plaid Cymru colleagues went to visit the engineering department within the new innovation campus. Following on from that meeting, I requested Swansea University to send me some figures as to what it would cost to set up a new steel and innovation unit in the university, because it's so close - it's in prime, premium position - to Tata Steel to be able to do that. It would cost £17.2 million over four years for that department to be realised. First Minister, if your Government believes that saving the steel industry is so vitally important, will you put money behind this new innovation project to make sure that steel can be sustained here in Wales?
Dros gyfnod yr etholiad, Brif Weinidog, euthum i a chydweithwyr Plaid Cymru i ymweld â'r adran beirianneg ar y campws arloesi newydd. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gofynnais i Brifysgol Abertawe anfon rhai ffigurau ataf o ran faint y byddai'n ei gostio i sefydlu uned dur ac arloesi newydd yn y brifysgol, gan ei bod mor agos - mae mewn lleoliad delfrydol, blaenllaw - i Tata Steel allu gwneud hynny. Byddai'n costio £17.2 miliwn dros bedair blynedd i'r adran honno gael ei sefydlu. Brif Weinidog, os yw eich Llywodraeth yn credu bod achub y diwydiant dur mor hanfodol bwysig, a wnewch chi roi arian i gefnogi'r prosiect arloesi newydd hwn i wneud yn siŵr y gall dur gael ei gynnal yma yng Nghymru?
Well, I too visited the campus as well, and the point was made to me. I've not yet seen a formal bid of any kind, personally, coming forward, but, of course, any such bids would be examined very carefully by us as a Government.
Wel, ymwelais innau â'r campws hefyd, a gwnaed y pwynt i mi. Nid wyf wedi gweld cais ffurfiol o unrhyw fath hyd yn hyn, yn bersonol, yn cael ei wneud, ond, wrth gwrs, byddai unrhyw geisiadau o'r fath yn cael eu hystyried yn ofalus iawn gennym ni fel Llywodraeth.
First Minister, could I first of all thank you for the leadership you've actually shown during the electoral campaign here in Wales on the steel crisis? My constituents very much appreciated that leadership here in Wales. Since the Assembly last met, actually, on 4 April, when we discussed the steel crisis, there's been a quickly moving process in the steel crisis, particularly in relation to selling Tara Steel interests here in the UK, and there have been several bodies interested and expressing an interest, and I think yesterday was the deadline for bids going in. What discussions has your Government had with any of those bodies that have submitted bids for buying Tata Steel and, particularly, what support are you offering to those companies? Can you also actually indicate as to whether this includes the continuation of the heavy end at Port Talbot, which is critical to the works, to ensure that not just the works continues as an integrated works - they are making steel from raw materials, but also that's where a lot of the contractors are employed, and the loss of that heavy end will have a huge impact upon employment in my area.
Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi yn gyntaf oll am yr arweinyddiaeth yr ydych chi wedi ei dangos yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma yng Nghymru ar yr argyfwng dur? Roedd fy etholwyr yn sicr yn gwerthfawrogi'r arweinyddiaeth honno yng Nghymru. Ers i'r Cynulliad gyfarfod ddiwethaf, a dweud y gwir, ar 4 Ebrill, pan drafodwyd yr argyfwng dur, mae proses sydd wedi symud yn gyflym yn yr argyfwng dur, yn enwedig o ran gwerthu buddiannau Tara Steel yma yn y DU, ac mae gan nifer o gyrff ddiddordeb ac wedi mynegi diddordeb, ac rwy'n credu mai ddoe oedd y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau. Pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth wedi eu cael gydag unrhyw un o'r cyrff hynny sydd wedi gwneud ceisiadau i brynu Tata Steel ac, yn benodol, pa gymorth ydych chi'n ei gynnig i'r cwmnïau hynny? A allwch chi hefyd mewn gwirionedd nodi a yw hyn yn cynnwys parhad y pen trwm ym Mhort Talbot, sy'n hollbwysig i'r gwaith, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau fel gwaith integredig - maen nhw'n gwneud dur o ddeunyddiau crai, ond hefyd dyna lle mae llawer o'r contractwyr yn cael eu cyflogi, a bydd colli'r pen trwm hwnnw'n cael effaith enfawr ar gyflogaeth yn fy ardal i.
Yes, I've met with two of the organisations who've put forward an expression of interest. The heavy end is absolutely crucial to the future of our steel industry within the UK, and I've made that very clear. Nor would I support any potential deal that saw the diminution of pension rights on behalf of either the pensioners or the workers who are currently working for Tata. That is absolutely crucial. Tomorrow, Tata will have their board meeting - I will be in Mumbai tomorrow - and they will be looking to take a decision, we understand, to reduce the expressions of interest down to a shortlist. What is encouraging, of course, is that there are businesses out there that are looking seriously at ensuring the future of our steel industry and, importantly, of course, not just picking off the most profitable bits, but ensuring that the heavy end of Port Talbot continues.
Gallaf, rwyf wedi cyfarfod â dau o'r sefydliadau sydd wedi cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Mae'r pen trwm yn gwbl hanfodol i ddyfodol ein diwydiant dur yn y DU, ac rwyf wedi gwneud hynny'n gwbl eglur. Ni fyddwn ychwaith yn cefnogi unrhyw gytundeb posibl a fyddai'n arwain at leihau hawliau pensiwn ar ran naill ai'r pensiynwyr na'r gweithwyr sy'n gweithio i Tata ar hyn o bryd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Yfory, bydd Tata yn cynnal ei gyfarfod bwrdd - byddaf yn Mumbai yfory - a byddant yn bwriadu gwneud penderfyniad, rydym ni'n deall, i grynhoi'r datganiadau o ddiddordeb i greu rhestr fer. Yr hyn sy'n galonogol, wrth gwrs, yw bod busnesau allan yna sy'n edrych o ddifrif ar sicrhau dyfodol ein diwydiant dur ac, yn bwysig, wrth gwrs, nid dewis y darnau mwyaf proffidiol yn unig, ond sicrhau bod pen trwm Port Talbot yn parhau.
I welcome the fact that the First Minister is going out to Mumbai. I was wondering, in light of the fact that the Welsh Government has supported the Excalibur bid, which is also very welcome, to date, will he be making active representations on behalf of that team? In terms of their vision, of course, we know that they are seeking a continuation of primary steel production; they're also involving the workforce in terms of an employee share-ownership plan. So, will he be making active representations that that bid should go forward to the next stage?
Croesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog yn mynd allan i Mumbai. Roeddwn i'n meddwl tybed, yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cais Excalibur, sydd hefyd i'w groesawu'n fawr, hyd yma, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol ar ran y tîm hwnnw? O ran eu gweledigaeth, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod eu bod yn dymuno parhau i gynhyrchu dur sylfaenol; maen nhw hefyd yn cynnwys y gweithlu o ran cynllun i'r gweithwyr fod yn berchnogion rhannol. Felly, a fydd ef yn gwneud sylwadau gweithredol y dylai'r cais hwnnw fynd ymlaen i'r cam nesaf?
Well, we already have. Certainly, I made strong representations to the UK Government that they should be seen as one of the preferred bidders. I'm encouraged by the fact that they seem to be talking to one of the other bidders, namely Liberty Steel. I think that's a good blend. I think the management buy-out option contains a lot of technical expertise, but has not yet raised the money. With Liberty Steel, they are a substantial business, but have not normally been involved in the heavy end of production. I think that's a useful tie-up and I look forward with interest as to how that progresses. I hope tomorrow that Tata will look very carefully at the bids and will certainly consider strongly the option of the management buy-out, possibly, of course, linked with Liberty Steel.
Wel, rydym ni wedi gwneud hynny eisoes. Yn sicr, rwyf wedi gwneud sylwadau cryf i Lywodraeth y DU y dylid eu hystyried yn un o'r cynigwyr a ffefrir. Rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith ei bod yn ymddangos eu bod yn siarad ag un o'r cynigwyr eraill, sef Liberty Steel. Rwy'n credu bod honno'n gymysgedd dda. Rwy'n meddwl bod y dewis prynu gan reolwyr yn cynnwys llawer o arbenigedd technegol, ond nid yw wedi codi'r arian eto. O ran Liberty Steel, mae'n fusnes sylweddol, ond nid yw wedi cymryd rhan yn y pen trwm o gynhyrchu fel arfer. Rwy'n credu bod hwnnw'n gyfuniad defnyddiol ac edrychaf ymlaen â diddordeb at sut y bydd hynny'n datblygu. Rwy'n gobeithio yfory y bydd Tata yn edrych yn ofalus iawn ar y cynigion ac yn sicr yn ystyried yn gryf y dewis prynu gan reolwyr, o bosibl, wrth gwrs, yn gysylltiedig â Liberty Steel.
First Minister, can you outline the importance the Welsh Government further places on the 11,000 steel-making jobs alone to the communities of Wales, and not just where the steel sites are located, but, for instance, in communities like mine in Islwyn, which was founded in steel, and also in terms of the primary making capabilities of that remaining in Wales? Thank you.
Brif Weinidog, a allwch chi amlinellu'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei neilltuo hefyd i'r 11,000 o swyddi cynhyrchu dur eu hunain i gymunedau Cymru, ac nid lle mae'r safleoedd dur wedi'u lleoli yn unig, ond, er enghraifft, mewn cymunedau fel fy un i yn Islwyn, a sefydlwyd ar sail dur, a hefyd o ran galluoedd cynhyrchu sylfaenol o'r hyn sydd ar ôl yng Nghymru? Diolch.
Absolutely. The industry is interlinked, because, having been to Trostre and Llanwern and also to Shotton - at Shotton, particularly, they were saying to me, 'Well, we do make money, but the reality is we rely on Port Talbot for steel. It would take us six months, roughly, to source steel from somewhere else. In the meantime, there is no guarantee that we'll be able to keep our customers.' I think that's sensible. The reality is we cannot be a major industrial economy if we don't produce our own steel. That is a fundamental requirement of being an industrial economy. We need to produce the steel that we need for industry, but also, of course, the steel that's needed for the armed forces, to equip them properly. This is an argument well rehearsed by ourselves and the UK Government. It's encouraging to see that there is interest. A more worrying scenario would have been if nobody had come forward with a view to buying all of Tata's assets in the UK. Certainly, it's important that Tata maintain the stance that they have taken in terms of wishing to see a viable sale go forward. I will be calling on them again tomorrow to continue with the goodwill they've already shown.
Yn sicr. Mae'r diwydiant yn gydgysylltiedig, oherwydd, ar ôl bod i Drostre a Llanwern a hefyd i Shotton - yn Shotton, yn arbennig, roeddwn nhw'n dweud wrthyf i, 'Wel, rydym ni'n gwneud arian, ond y gwir amdani yw ein bod yn dibynnu ar Bort Talbot am ddur. Byddai'n cymryd chwe mis, yn fras, i ni gael gafael ar ddur o rywle arall. Yn y cyfamser, nid oes unrhyw sicrwydd y byddwn yn gallu cadw ein cwsmeriaid.' Rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol. Y gwir amdani yw na allwn ni fod yn economi ddiwydiannol fawr os nad ydym yn cynhyrchu ein dur ein hunain. Mae hynny'n un o ofynion sylfaenol bod yn economi ddiwydiannol. Mae angen i ni gynhyrchu'r dur sydd ei angen arnom ni ar gyfer diwydiant, ond hefyd, wrth gwrs, y dur sydd ei angen ar gyfer y lluoedd arfog, i'w harfogi'n iawn. Mae hon yn ddadl a wnaed dro ar ôl tro gennym ni a Llywodraeth y DU. Mae'n galonogol gweld bod diddordeb. Byddai sefyllfa lle nad oedd unrhyw un wedi dod ymlaen gyda'r bwriad o brynu holl asedau Tata yn y DU wedi peri mwy o bryder. Yn sicr, mae'n bwysig bod Tata yn cynnal y safiad y mae wedi ei wneud o ran dymuno gweld gwerthiant hyfyw yn cael ei wneud. Byddaf yn galw arnynt eto yfory i barhau â'r ewyllys da y maent eisoes wedi ei dangos.
First Minister, I was a little disappointed to hear that you've only managed to speak to two of the potential buyers. I wonder if you could tell me if you took proactive steps to speak to all those who'd shown an interest in putting bids together and, within the terms of commercial confidentiality, the kind of range of costs that the Welsh Government is most likely to support in making any bespoke promises to the bidders that you did speak to.
Brif Weinidog, roeddwn i braidd yn siomedig o glywed eich bod ond wedi llwyddo i siarad â dau o'r darpar brynwyr. Tybed a allech chi ddweud wrthyf a wnaethoch chi gymryd camau rhagweithiol i siarad â phawb a oedd wedi dangos diddordeb mewn gwneud cynigion ac, yn unol â thelerau cyfrinachedd masnachol, y math o amrywiaeth o gostau y mae Llywodraeth Cymru yn fwyaf tebygol o'i chefnogi wrth wneud unrhyw addewidion pwrpasol i'r cynigwyr y gwnaethoch chi siarad â nhw.
Well, we have the £60 million already on the table; half of which is a commercial loan, the other half of which is in the form of grant money. We are still looking at whether there is more we could do on business rates. It is right to say that the initial advice was that we could offer €200,000 over three years. We are examining that once again to see whether there is a way that we can assist further. But nevertheless, the amount of money that's on the table represents roughly four years' worth of business rates for Tata in any event, and that money will be on the table for any new buyer.
Wel, mae gennym ni £60 miliwn eisoes ar y bwrdd; mae hanner hwnnw'n fenthyciad masnachol, mae'r hanner arall ar ffurf arian grant. Rydym ni'n dal i edrych a oes mwy y gallem ni ei wneud o ran ardrethi busnes. Mae'n iawn i ddweud mai'r cyngor gwreiddiol oedd y gallem ni gynnig €200,000 dros dair blynedd. Rydym ni'n archwilio hynny unwaith eto i weld a oes ffordd y gallwn ni helpu ymhellach. Ond serch hynny, mae'r swm o arian sydd ar y bwrdd yn cynrychioli gwerth tua phedair blynedd o ardrethi busnes i Tata beth bynnag, a bydd yr arian hwnnw ar y bwrdd i unrhyw brynwr newydd.
First Minister, Tata's Orb steelworks in my constituency, as you know, makes world-class quality electrical steels. I meet with them on a regular basis and it's clear to me that there's been a very good working relationship between the Welsh Government and the Orb works over a period of time. Would you assure me that that relationship, which has supported machinery, better process, upgrading skills and training, will continue into the future so that we can build on these world-class products for the Welsh steel industry in general?
Brif Weinidog, mae gwaith dur Orb Tata yn fy etholaeth i, fel y gwyddoch, yn gwneud dur trydanol o'r radd flaenaf. Rwy'n cyfarfod â nhw yn rheolaidd ac mae'n amlwg i mi y bu perthynas waith dda iawn rhwng Llywodraeth Cymru a gwaith yr Orb dros gyfnod o amser. A wnewch chi fy sicrhau y bydd y berthynas honno, sydd wedi cefnogi peiriannau, gwell proses, uwchraddio sgiliau a hyfforddiant, yn parhau yn y dyfodol fel y gallwn adeiladu ar y cynhyrchion o'r radd flaenaf hynny ar gyfer diwydiant dur Cymru yn gyffredinol?
Absolutely; I can give that guarantee. One of the elements of the package we've offered is a €2 million sum for skills and training. Of course, we've worked very closely with the industry in years gone by to make sure that we're able to assist them with bespoke training packages. We see, of course, the result in the highly specialised work that's carried out in the Member's constituency.
Yn sicr; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Un o elfennau'r pecyn yr ydym ni wedi ei gynnig yw swm o €2 filiwn ar gyfer sgiliau a hyfforddiant. Wrth gwrs, rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda'r diwydiant yn y blynyddoedd a fu i wneud yn siŵr ein bod yn gallu eu cynorthwyo gyda phecynnau hyfforddiant pwrpasol. Rydym ni'n gweld, wrth gwrs, canlyniad y gwaith arbenigol iawn sy'n cael ei wneud yn etholaeth yr Aelod.
First Minister, I appreciate that parties involved have had to sign non-disclosure agreements, which limits the information that you might be able to give, but following on from John Griffiths's question, can I ask you if you have had any discussions specifically about the viability of the Llanwern part of the Welsh steel operation, of direct concern to my constituents? We know that there are some proposals to upgrade the Port Talbot works to an arc furnace, for instance, and some other proposals as well. Do you have any information in terms of modernisation proposals to make the Llanwern steelworks more viable moving forward?
Brif Weinidog, rwy'n sylweddoli y bu'n rhaid i'r partïon dan sylw lofnodi cytundebau peidio â datgelu, sy'n cyfyngu ar y wybodaeth y gallwch chi ei rhoi, ond yn dilyn ymlaen o gwestiwn John Griffiths, a gaf i ofyn i chi os ydych chi wedi cael unrhyw drafodaethau penodol ar hyfywedd rhan Llanwern o weithrediad dur Cymru, sydd yn peri pryder uniongyrchol i'm hetholwyr? Rydym ni'n gwybod bod rhai cynigion i uwchraddio gwaith Port Talbot i ffwrnais arc, er enghraifft, a rhai cynigion eraill hefyd. A oes gennych chi unrhyw wybodaeth o ran cynigion moderneiddio i wneud gwaith dur Llanwern yn fwy hyfyw yn y dyfodol?
Well, the difficult part of the steel industry at the moment is the steel-making end in Port Talbot. The rolling mills at Trostre, Llanwern and Shotton are all in a good financial position. That said, I do know that the loss at Port Talbot has already been cut by two thirds. It's still losing money, but there's been a significant turnaround in a very short space of time. But it's hugely important - and I've made this point many times before, and I'll make it again tomorrow - that Tata's assets in Wales are taken as a whole and that we don't see piecemeal sell-off of what is seen as the more profitable ends despite the supply issues, but rather that we see the heavy end at Port Talbot being seen as an integral part of any sale. Huge progress has been made over a very short space of time to move towards what might be, in time, a break-even position. Given where the heavy end was before Christmas, that will be an enormous achievement.
Wel, y rhan anodd o'r diwydiant dur ar hyn o bryd yw'r pen gwneud dur ym Mhort Talbot. Mae'r melinau rholio yn Nhrostre, Llanwern a Shotton i gyd mewn sefyllfa ariannol dda. Wedi dweud hynny, gwn fod y golled ym Mhort Talbot eisoes wedi cael ei thorri gan ddwy ran o dair. Mae'n dal i golli arian, ond bu gwelliant sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser. Ond mae'n hynod bwysig - ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn sawl gwaith o'r blaen, a byddaf yn ei wneud eto yfory - bod asedau Tata yng Nghymru yn cael eu cymryd yn eu cyfanrwydd ac nad ydym yn gweld gwerthiant darniog o'r hyn a ystyrir fel y pen mwy proffidiol er gwaethaf y problemau cyflenwi, ond yn hytrach ein bod yn gweld y pen trwm ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn rhan annatod o unrhyw werthiant. Gwnaed cynnydd aruthrol dros gyfnod byr iawn o amser i symud tuag at yr hyn a allai fod, ymhen amser, yn sefyllfa o fantoli'r gyllideb. O ystyried sefyllfa'r pen trwm cyn y Nadolig, bydd hynny'n llwyddiant aruthrol.
The Welsh Government is fully committed to this significantly important project. We expect that this year, 2016, will be a significant year for this £12 billion project, not least marked by Horizon's announcement last week of a new delivery team for Wylfa Newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r datblygiad hynod bwysig hwn. Rydym ni'n disgwyl y bydd y flwyddyn hon yn flwyddyn arwyddocaol i'r prosiect, sydd yn werth £12 biliwn, yn enwedig gan fod Horizon wedi cyhoeddi tîm cyflenwi newydd ar gyfer Wylfa Newydd yr wythnos diwethaf.
Thank you. The term of the fifth Assembly is going to be crucial, of course, in the development of Wylfa Newydd. The Welsh Government won't decide whether the development proceeds, although everything does seem to be moving in that direction at present, but the Welsh Government does have a very important role to play in terms of ensuring that the development brings the greatest benefits possible to Ynys Môn - in terms of local jobs, skills development and so on, but also in terms of pressing for mitigation measures in many areas, for example tourism and pressures on the housing system, and public services more generally. So, can the First Minister give a commitment to increasing the capacity of the department within Government that is involved with this development, to ensure that the interests of Ynys Môn and north Wales more widely are protected through this development period?
Diolch. Mae cyfnod y pumed Cynulliad yn mynd i fod yn gyfnod allweddol iawn, wrth gwrs, o ran datblygiad Wylfa Newydd. Nid Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu pa un ai a fydd y datblygiad yn mynd yn ei flaen, er bod popeth yn edrych fel petai'n symud i'r cyfeiriad hwnnw ar hyn o bryd, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig iawn, iawn i'w chwarae o ran sicrhau bod y datblygiad yn dod â'r budd mwyaf posib i Ynys Môn - o ran swyddi lleol ac o ran datblygu sgiliau ac ati, ond hefyd o ran cyflwyno a gwthio am fesurau lliniaru mewn nifer o feysydd, o dwristiaeth i bwysau ar y sector tai, ac ar y gwasanaethau cyhoeddus drwyddyn nhw draw. A all y Prif Weinidog roi ymrwymiad i gynyddu capasiti yn yr adran yn y Llywodraeth sy'n ymwneud â'r datblygiad hwn, er mwyn sicrhau bod buddiannau Ynys Môn, a gogledd Cymru yn ehangach, yn cael eu gwarchod drwy'r cyfnod datblygu?
Well, this has already happened. A nuclear programme board has already been established under the auspices of Welsh Government, and the aim of that board is to secure the maximum economic benefit for the island, and also to Wales as a whole. That board has a number of work streams that they're considering at present, considering things such as skills, business development, marketing, education and also economic benefits. So, that work has already begun in order to ensure that the island itself can get the optimum benefit out of this development.
Mae hyn wedi digwydd yn barod. Mae yna fwrdd rhaglen niwclear wedi cael ei sefydlu, sef bwrdd Llywodraeth Cymru, a nod y bwrdd yw sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r budd economaidd mwyaf i'r ynys a hefyd i Gymru yn gyfan gwbl. Mae gyda'r bwrdd hwnnw sawl ffynhonnell waith sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd, sy'n cynnwys pethau fel sgiliau, pethau fel datblygu busnesau, marchnata, addysg a hefyd budd economaidd. Felly, mae'r gwaith yna wedi dechrau yn barod er mwyn sicrhau bod yr ynys ei hunan yn gallu cael y budd mwyaf sy'n bosibl o'r datblygiad hwn.
The North Wales Economic Ambition Board was established to maximise the opportunities presented by several large-scale projects in the north Wales pipeline, Wylfa Newydd being the largest. The North Wales Economic Ambition Board, including all six county councils, the north Wales business council and the third sector, has welcomed the UK Government offer of a north Wales growth deal and additional funding, but that requires delivery in partnership with the Welsh Government. How has, or will, your Welsh Government respond to that offer?
Sefydlwyd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl a gynigir gan sawl prosiect graddfa fawr sydd ar y gweill yn y gogledd, a Wylfa Newydd yw'r mwyaf o'r rheini. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan gynnwys pob un o'r chwe chyngor sir, cyngor busnes gogledd Cymru a'r trydydd sector, wedi croesawu cynnig Llywodraeth y DU o gytundeb twf gogledd Cymru a chyllid ychwanegol, ond mae angen darparu hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Sut mae, neu y bydd, eich Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r cynnig hwnnw?
Well, given the fact that it was already there in the first place, positively. He will know, the Member, that we have put in place plans for the north-east of Wales - that's not to exclude the north-west; we know how important the north-west is - because, at one point, the Northern Powerhouse, as it's called, in the north-west of England, was being presented as a competitor. Now, we see a number of opportunities for co-operative working across the border to ensure prosperity across the border, and that's what we'll be looking to do. It's not exclusive to the north-east; we want to see that prosperity extend all the way across the north of our country.
Wel, o ystyried y ffaith ei fod eisoes yno yn y lle cyntaf, yn gadarnhaol. Bydd yn gwybod, yr Aelod, ein bod wedi rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer y gogledd-ddwyrain - nid yw hynny'n eithrio'r gogledd-orllewin; rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r gogledd-orllewin - oherwydd, ar un adeg, roedd y Northern Powerhouse, fel y'i gelwir, yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn cael ei gyflwyno fel cystadleuydd. Nawr, rydym ni'n gweld nifer o gyfleoedd i weithio ar y cyd ar draws y ffin i sicrhau ffyniant ar draws y ffin, a dyna beth fyddwn ni'n ceisio ei wneud. Nid yw ar gyfer y gogledd-ddwyrain yn unig; rydym ni eisiau gweld y ffyniant hwnnw'n ymestyn yr holl ffordd ar draws ogledd ein gwlad.
First Minister, the economic impact of Wylfa Newydd will see about 6,800 workers at the height of construction. Now, many of these people will travel along the north Wales corridor. What is your Government going to do with regard to the bottleneck that we already have with the Britannia bridge?
Brif Weinidog, bydd effaith economaidd Wylfa Newydd yn arwain at 6,800 o weithwyr yn anterth yr adeiladu. Nawr, bydd llawer o'r bobl hyn yn teithio ar hyd coridor y gogledd. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud o ran y dagfa sydd gennym ni eisoes gyda phont Britannia?
We've already examined the options for a third crossing on the Menai, and that's something that we want to take forward. We've examined whether it's possible, for example, to extend - or widen, rather - the Britannia bridge. That's tricky, but, nevertheless, this is work in progress. We know how important it is - I mean, the A55 is not a dual carriageway across its entire length, because of the bridge. We already, of course, are beginning work to remove the roundabouts in Llanfairfechan and Penmaenmawr, which will help hugely, and, of course, at the eastern end of the A55, looking at improving the gateway to Wales at Drome Corner. But, yes, the Member is right; ensuring that there is a proper four-lane crossing over the Menai will be important work for the next few years.
Rydym ni eisoes wedi archwilio'r dewisiadau ar gyfer trydedd pont ar draws y Fenai, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi archwilio pa un a yw'n bosibl, er enghraifft, ymestyn - neu ledaenu, yn hytrach - pont Britannia. Mae hynny'n anodd, ond, serch hynny, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw - hynny yw, nid yw'r A55 yn ffordd ddeuol ar ei hyd cyfan, oherwydd y bont. Rydym eisoes, wrth gwrs, yn dechrau gwaith i gael gwared ar y cylchfannau yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, a fydd yn helpu'n aruthrol, ac, wrth gwrs, ar ben dwyreiniol yr A55, gyda'r nod o wella'r porth i Gymru yn Drome Corner. Ond, ydy, mae'r Aelod yn iawn; bydd sicrhau bod man croesi pedair lôn priodol dros y Fenai yn waith pwysig ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Cancer is a top priority for us. The £200 million business case for transforming cancer services across south-east Wales is being progressed, and, of course, the outline business case for a new cancer hospital in Velindre - of course, in the Member's constituency - is due to be submitted by the end of this year.
Mae canser yn flaenoriaeth uchel i ni. Mae'r achos busnes £200 miliwn i weddnewid gwasanaethau canser ar draws y de-ddwyrain yn cael ei ddatblygu, ac, wrth gwrs, disgwylir i'r achos busnes amlinellol ar gyfer ysbyty canser newydd yn Felindre - wrth gwrs, yn etholaeth yr Aelod - gael ei gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn hon.
I thank the First Minister for that response. As he says, there are exciting plans in place to improve cancer services in south-east Wales, bringing services closer to people in their own homes, and also to build a new Velindre. So, will he confirm his Government's commitment to building the new Velindre, in order to improve the quality of service that we're able to offer?
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Fel y dywed, mae cynlluniau cyffrous ar waith i wella gwasanaethau canser yn y de-ddwyrain, gan ddod â gwasanaethau yn nes at bobl yn eu cartrefi eu hunain, a hefyd i adeiladu Felindre newydd. Felly, a wnaiff ef gadarnhau ymrwymiad ei Lywodraeth i adeiladu'r Felindre newydd, er mwyn gwella ansawdd y gwasanaeth y gallwn ni ei gynnig?
Yes, I can absolutely give that commitment. It will house a number of new treatments as well - the stereotactic radiotherapy, for example, will be housed there, and that will give new opportunities to so many people who are living with cancer to be able to have their lives extended, or better. We intend for Velindre to be a state-of-the-art cancer facility for the people of Wales.
Gwnaf, gallaf roi'r ymrwymiad hwnnw yn bendant. Bydd yn gartref i nifer o driniaethau newydd hefyd - bydd y radiotherapi stereotactig, er enghraifft, wedi'i leoli yno, a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i gymaint o bobl sy'n byw gyda chanser i allu ymestyn eu bywydau, neu well. Rydym ni'n bwriadu i Felindre fod yn gyfleuster canser arloesol i bobl Cymru.
One of the areas where Wales has fallen behind a little in terms of treating cancer is the diagnosis waiting time. A number of cancer charities, during the campaign that we've all just participated in, have been in touch with a number of candidates and asked what we can do in this Assembly to improve diagnostic times. Plaid Cymru, for example, had a proposal for diagnosis within 28 days. What are you as a Government going to do to improve the situation in Wales?
Un o'r meysydd lle mae Cymru ar ei hôl hi tipyn bach o safbwynt ymdrin â chanser yw'r amser i ddiagnosis. Mae nifer o elusennau canser yn ystod yr ymgyrch yr ydym ni i gyd wedi bod yn rhan ohoni hi wedi cysylltu â ni fel ymgeiswyr i ofyn beth y gallem ni ei wneud yn y Cynulliad hwn i wella'r amser i ddiagnosis. Roedd gan Blaid Cymru gynllun, er enghraifft, ar gyfer diagnosis o fewn 28 diwrnod. Beth ydych chi'n mynd i'w wneud fel Llywodraeth i wella'r sefyllfa yng Nghymru?
We must ensure that diagnosis takes place as soon as possible. But with some cancer patients, it's not as easy to get an early diagnosis. With the majority, that's fine. But also, people want to move forward to receive treatment. Our figures on treatment are good and are improving, and we must ensure that that's our ultimate aim. But of course, it's important to have new resources such as Velindre to ensure that the best treatment is available to the majority of people.
Rhaid sicrhau, wrth gwrs, fod diagnosis yn cymryd lle cyn gynted ag sy'n bosib. Gyda rhai pobl â chanser, nid yw hi mor rhwydd â hynny i gael diagnosis mewn amser byr. Gyda'r rhan fwyaf, ydy, mae'n iawn. Hefyd, wrth gwrs, mae pobl yn gallu symud ymlaen i gael triniaeth. Mae ein ffigyrau ni ynglŷn â phobl sydd yn cael triniaeth yn dda, ac yn gwella, ac rydym ni'n moyn sicrhau bod hynny'n digwydd yn y pen draw. Ond, mae'n bwysig hefyd i gael adnoddau newydd, fel Felindre, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod y triniaeth gorau ar gael i'r rhan fwyaf o bobl.
First Minister, we welcome your own manifesto commitment of £80 million for a new treatment fund. This of course follows on the back of the Welsh Conservatives calling for many years for a cancer treatment drugs fund to end the inequality and postcode lottery that does exist here in Wales. Will you pledge on record here today, First Minister, that during this Assembly term we will not see any patient having to travel out of Wales to receive the very necessary treatment they need? But also, to widen the scope available to you, will you look at the millions of pounds wasted on routine treatment drugs so freely available over the counter in supermarkets? This is all part of your free prescriptions for all, and I think it would be much better to see this money targeted in a better way towards a cancer treatments fund.
Brif Weinidog, rydym ni'n croesawu eich ymrwymiad maniffesto eich hun o £80 miliwn ar gyfer cronfa driniaeth newydd. Mae hyn wrth gwrs yn dilyn galwad y Ceidwadwyr Cymreig ers blynyddoedd lawer am gronfa cyffuriau trin canser i roi terfyn ar yr anghydraddoldeb a'r loteri cod post sy'n bodoli yma yng Nghymru. A wnewch chi addo ar goedd yma heddiw, Brif Weinidog, na fyddwn yn gweld unrhyw glaf, yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn gorfod teithio allan o Gymru i dderbyn y driniaeth angenrheidiol iawn sydd ei hangen arnynt? Ond hefyd, i ehangu'r cwmpas sydd ar gael i chi, a wnewch chi edrych ar y miliynau o bunnoedd sy'n cael eu gwastraffu ar gyffuriau triniaeth arferol sydd ar gael mor rhwydd dros y cownter mewn archfarchnadoedd? Mae hyn i gyd yn rhan o'ch presgripsiynau am ddim i bawb, ac rwy'n credu y byddai'n llawer gwell gweld yr arian hwn yn cael ei dargedu mewn ffordd well tuag at gronfa triniaethau canser.
Ah, the tablet tax makes its reappearance. No, we have no plans to start charging people for prescriptions, any more than we have plans to start charging people for GP appointments. I don't anticipate anybody crossing the border, because the cancer drugs fund in England has gone. It collapsed under the weight of its own pressure. So, what we've put in place is a sensible, affordable fund where people will have access - not just people with cancer, because there are, obviously, other life-threatening conditions, and it's important that people are treated equally with life-threatening conditions - but where they will be able to access drugs as quickly as possible, as soon as they're approved by NICE or the All Wales Medicines Strategy Group. We think that is a sensible, fair and humane fund that will be available to, yes, those who are living with cancer, but also people who are living with a number of life-threatening conditions.
Ah, dyma ailymddangosiad y dreth tabledi. Na, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddechrau codi tâl ar bobl am bresgripsiynau, mwy nag y mae gennym ni gynlluniau i ddechrau codi tâl ar bobl am apwyntiadau meddyg teulu. Nid wyf yn rhagweld y bydd unrhyw un yn croesi'r ffin, gan fod y gronfa cyffuriau canser yn Lloegr wedi dod i ben. Cwympodd o dan ei phwysau ei hun. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei roi ar waith yw cronfa synhwyrol, fforddiadwy lle bydd pethau ar gael i bobl - nid pobl â chanser yn unig, gan fod, yn amlwg, cyflyrau eraill sy'n bygwth bywydau, ac mae'n bwysig bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal pan fo ganddynt gyflyrau sy'n bygwth bywydau - ond pan fyddant yn gallu cael gafael ar gyffuriau cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y byddant wedi cael eu cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Rydym yn credu bod hon yn gronfa synhwyrol, teg a thrugarog a fydd ar gael i'r rhai sy'n byw gyda chanser, yn ogystal â phobl sy'n byw gyda nifer o gyflyrau sy'n bygwth eu bywydau.
First Minister, Wales has some of the lowest cancer survival rates in the developed world, and the main reason is poor detection and early intervention. How will your Government improve diagnosis and treatment, and do you agree with my party that everyone diagnosed with cancer should have a full written care plan?
Brif Weinidog, mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser isaf yn y byd datblygedig, a'r prif reswm yw cyfraddau gwael o ran canfod ac ymyrraeth gynnar. Sut wnaiff eich Llywodraeth wella diagnosis a thriniaeth, ac a ydych chi'n cytuno â fy mhlaid i y dylai pawb sy'n cael diagnosis o ganser fod â chynllun gofal ysgrifenedig llawn?
Well, these are issues, of course, that we've been investigating, particularly with regard to a key worker. When somebody is diagnosed with cancer it's an immense blow, and an immense struggle. I've seen it, as have a number of others - I'm sure all Members have within this Chamber. Early detection is important. That's why we know, of course, that the number of referrals has increased, but on top of that, we know that people are getting treatment certainly more quickly than was the case, and of course they will have access, when Velindre is open, to some of the most state-of-the-art treatments that can be made available, I'd argue, in the world. That's why it's so important that Velindre is available to the people of south Wales, and of course that we continue to make sure that services are available for the people of north Wales, cross-border, so that they can get the treatment they require as well.
Wel, mae'r rhain yn faterion, wrth gwrs, yr ydym ni wedi bod yn ymchwilio iddynt, yn enwedig o ran gweithiwr allweddol. Mae'n ergyd enfawr pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser, ac yn frwydr enfawr. Rwyf wedi ei weld, fel y mae nifer o bobl eraill - rwy'n siŵr fod pob Aelod yn y Siambr hon wedi ei weld. Mae canfod yn gynnar yn bwysig. Dyna pam yr ydym ni'n gwybod, wrth gwrs, fod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu, ond yn ogystal â hynny, rydym ni'n gwybod bod pobl yn cael triniaeth yn sicr yn gyflymach nag oedd yn wir o'r blaen, ac wrth gwrs bydd rhai o'r triniaethau mwyaf arloesol y gellir eu rhoi ar gael, byddwn yn dadlau, yn y byd, ar gael iddynt pan fydd Felindre yn agor, at. Dyna pam mae hi mor bwysig bod Felindre ar gael i bobl y de, ac wrth gwrs ein bod yn parhau i wneud yn siŵr bod gwasanaethau ar gael i bobl y gogledd, ar draws ffiniau, fel y gallant hwythau gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt hefyd.
Yes. The national transport finance plan sets out investment for transport and infrastructure in all parts of Wales. By now, the Cynon Valley link is identified as Rhondda Cynon Taf's No. 1 priority scheme for 2015-20, and we have allocated money to the council to develop the Cynon Gateway South scheme.
Gwnaf. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ym mhob rhan o Gymru. Erbyn hyn, nodir mai cysylltiad Cwm Cynon yw'r cynllun â'r brif flaenoriaeth yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2015-20, ac rydym ni wedi dyrannu arian i'r cyngor i ddatblygu cynllun Porth y De Cynon.
Thank you, First Minister. It's welcome news that work is progressing on the development of a cross-valley link in the southern part of Cynon Valley, thanks to the Welsh Government and RCT council working together and investing to improve local networks. Will you continue to work with the local authority to push forward this important infrastructure project, which has the potential to benefit commuters and boost economic regeneration throughout my constituency?
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n newyddion da bod y gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu cyswllt traws-gwm yn rhan ddeheuol Cwm Cynon, diolch i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i gilydd ac yn buddsoddi i wella rhwydweithiau lleol. A fyddwch chi'n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â'r prosiect seilwaith pwysig hwn, sydd â'r potensial i fod o fudd i gymudwyr ac i roi hwb i adfywiad economaidd ledled fy etholaeth?
Yes, we will. It's early days yet, of course, because this is the preparatory work that's being done, but we would expect RCT to make a formal submission over the course of the next few years. We know that Aberdare is close geographically to the A470 and the A465, but we know that the roads are not good in terms of people coming in to Aberdare, and it's important to have a fast route out to the Heads of the Valleys from the town. We'll be working, of course, with RCT council to make sure that happens in the years to come.
Byddwn, mi fyddwn. Dyddiau cynnar yw hi eto, wrth gwrs, gan mai dyma'r gwaith paratoadol sy'n cael ei wneud, ond byddem yn disgwyl i Rhondda Cynon Taf wneud cyflwyniad ffurfiol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rydym yn gwybod bod Aberdâr yn agos yn ddaearyddol at yr A470 a'r A465, ond rydym ni'n gwybod nad yw'r ffyrdd yn dda o ran pobl yn dod i mewn i Aberdâr, ac mae'n bwysig cael llwybr cyflym allan i Flaenau'r Cymoedd o'r dref. Byddwn yn gweithio, wrth gwrs, gyda chyngor Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod hynny'n digwydd yn y blynyddoedd i ddod.
First Minister, the leader of RCT has said that the city deal model is now key to improving transport infrastructure and promoting economic regeneration. Will your Government, in the term ahead, be working effectively with all of the partners to ensure the city deal model is effectively implemented?
Brif Weinidog, mae arweinydd Rhondda Cynon Taf wedi dweud bod y model cytundeb dinas yn allweddol erbyn hyn i wella seilwaith trafnidiaeth a hybu adfywiad economaidd. A fydd eich Llywodraeth, yn y tymor i ddod, yn gweithio'n effeithiol gyda'r holl bartneriaid i sicrhau bod y model cytundeb dinas yn cael ei roi ar waith yn effeithiol?
Yes, absolutely. We have worked with the UK Government and with the 10 local authorities involved to make sure that the city deal came to fruition. It's right to say that it's dependent, of course, on funding from various different sources. We know the metro, for example, is dependent on £125 million of funding from European sources, and if that was lost, it would endanger the viability of the metro. But we'll continue to work, of course, with all levels of Government to make sure that the city deal is taken forward.
Bydd, yn sicr. Rydym ni wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r 10 awdurdod lleol dan sylw i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn dwyn ffrwyth. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn ddibynnol, wrth gwrs, ar arian o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym ni'n gwybod bod y metro, er enghraifft, yn ddibynnol ar £125 miliwn o gyllid o ffynonellau Ewropeaidd, a phe byddai hwnnw'n cael ei golli, byddai'n peryglu hyfywedd y metro. Ond byddwn yn parhau i weithio, wrth gwrs, gyda phob lefel o Lywodraeth i wneud yn siŵr bod y cytundeb dinas yn cael ei ddatblygu.
It is a threat, as we know. Overprescribing of, and resistance to, antibiotics is a global problem that requires global solutions. Nevertheless, we do have a delivery plan in Wales - a blueprint for specific actions that will have the biggest impact in slowing the spread of resistance. There are 12 specific actions in that plan. They're all designed, of course, to make sure that we contribute to slowing down resistance, in terms of bacteria and viruses, to drugs that have been in use for many, many years. Some of the stories that I've seen in the news are quite chilling, in terms of what might happen unless investment is made now into research.
Mae'n fygythiad, fel y gwyddom. Mae rhoi gormod o wrthfiotigau ar bresgripsiwn ac ymwrthedd iddynt yn broblem fyd-eang sy'n gofyn am atebion byd-eang. Serch hynny, mae gennym ni gynllun cyflawni yng Nghymru - glasbrint ar gyfer camau gweithredu penodol a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar arafu lledaeniad ymwrthedd. Ceir 12 o gamau gweithredu penodol yn y cynllun hwnnw. Maent i gyd wedi eu cynllunio, wrth gwrs, i wneud yn siŵr ein bod yn cyfrannu at arafu ymwrthedd, o ran bacteria a firysau, i gyffuriau sydd wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd maith. Mae rhai o'r straeon yr wyf i wedi eu gweld yn y newyddion yn peri dychryn, o ran yr hyn a allai ddigwydd oni bai y buddsoddir mewn gwaith ymchwil nawr.
It's good to hear, First Minister, that you recognise that this really is a global threat to human health and survival rates from common causes. We have always assumed that we would easily survive the common diseases that now could cause death. Professor O'Neill is calling for worldwide action on this, both in relation to the overuse of antibiotics in animals as well as the overuse of prescribing to human beings. I wonder how this delivery plan that was published just before we went into recess is going to deal with the variations in practice, both in our hospitals and in our GP practices. I particularly note that in the Cardiff east GP cluster, there is a significant overprescribing for respiratory diseases compared with other clusters, and it would be useful to explore why these differences exist and how we're going to deal with them.
Mae'n braf clywed, Brif Weinidog, eich bod yn cydnabod bod hwn wir yn fygythiad byd-eang i iechyd a chyfraddau goroesi dynol o achosion cyffredin. Rydym ni wedi tybio erioed y byddem yn goroesi'n rhwydd y clefydau cyffredin a allai achosi marwolaeth erbyn hyn. Mae'r Athro O'Neill yn galw am weithredu byd-eang ar hyn, o ran gorddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid yn ogystal â gorddefnyddio presgripsiynau ar eu cyfer i fodau dynol. Tybed sut y mae'r cynllun cyflawni hwn a gyhoeddwyd ychydig cyn i ni fynd i'r toriad yn mynd i ymdrin â'r amrywiadau o ran arferion, yn ein hysbytai ac yn ein meddygfeydd. Rwy'n sylwi'n benodol, yng nghlwstwr meddygon teulu dwyrain Caerdydd, bod gorbresgripsiynu sylweddol ar gyfer clefydau anadlol o'i gymharu â chlystyrau eraill, a byddai'n ddefnyddiol archwilio pam mae'r gwahaniaethau hyn yn bodoli a sut yr ydym ni'n mynd i ymdrin â nhw.
The Member's right to point out a significant issue in the Cardiff east cluster. I can say that the All Wales Medicines Strategy Group has published further detailed information in relation to the prescribing of medicines for respiratory illnesses to support clusters in identifying and addressing variation in prescribing behaviours. We are a long way away from the days when antibiotics were prescribed as a matter of course, because we know it doesn't harm the individual but it harms herd immunity, if I can put it that way. There are some illnesses - . Tuberculosis in my grandparents' generation was a real killer. It was believed that with Streptomycin, TB would no longer be an issue for us, yet we know that it appears that there are now strains of TB that are becoming resistant to the drugs that we have. That's a natural process in the world of microbiology, and it's hugely important that we make sure that research is still carried out across the world to combat that resistance before it becomes so bad that it claims the lives of many people.
Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at broblem sylweddol yng nghlwstwr dwyrain Caerdydd. Gallaf ddweud bod Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth fanwl yn ymwneud â rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn ar gyfer salwch anadlol i gefnogi clystyrau o ran nodi a mynd i'r afael ag amrywiadau o ran ymddygiadau presgripsiynu. Rydym yn bell i ffwrdd o'r dyddiau pan oedd gwrthfiotigau'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn fel mater o drefn, gan ein bod yn gwybod nad yw'n niweidio'r unigolyn ond mae'n niweidio imiwnedd torfol, os gallaf ei roi felly. Ceir rhai afiechydon - . Roedd twbercwlosis yng nghenhedlaeth fy mam-gu a'm tad-cu yn lladdwr gwirioneddol. Y gred oedd, gyda streptomycin, na fyddai TB yn broblem i ni mwyach, ac eto rydym ni'n gwybod ei bod yn ymddangos bod rhywogaethau newydd o TB erbyn hyn sy'n datblygu ymwrthedd i'r cyffuriau sydd gennym ni. Mae honno'n broses naturiol ym myd microbioleg, ac mae'n hynod bwysig ein bod yn sicrhau bod ymchwil yn dal i gael ei wneud ar draws y byd i frwydro yn erbyn yr ymwrthedd hwnnw cyn iddo fod mor wael fel ei fod yn cymryd bywydau llawer o bobl.
First Minister, you may agree with me, perhaps, as I say that the use, or indeed the overuse, of antibiotics is a responsibility for us all. As we know, the use of antibiotics happens in agriculture as well as being prescribed by GPs and used in our hospitals. Of course, in some European nations, you can now just buy antibiotics - you don't even need a prescription in the first place. Of course, there are increased pressures on GPs, particularly in our practices, to be prescribing when, given that the common sore throat is going to be caused by a virus, an antibiotic isn't the best treatment. It's important that the public should be aware of that in addition to the GP. So, would you agree with me that raising awareness is important, but the use of antibiotics, or the misuse or overuse of antibiotics, is a responsibility for us all?
Brif Weinidog, efallai eich bod yn cytuno â fi wrth i fi ddweud bod y defnydd, neu'r gorddefnydd, o wrthfiotigau yn gyfrifoldeb arnom ni i gyd, i ddweud y gwir. Fel rydym yn ymwybodol, mae'r defnydd o wrthfiotig yn digwydd yn y byd amaeth, yn ogystal, wrth gwrs, a chan feddygon teulu ac yn ein hysbytai. Wrth gwrs, mewn rhai gwledydd yn Ewrop ac ymhellach, rydych jest yn gallu prynu gwrthfiotig - nid oes yn rhaid ichi gael presgripsiwn yn y lle cyntaf. Wrth gwrs, mae yna bwysau cynyddol ar feddygon, yn enwedig yn ein practisys ni, efallai, i fod yn rhagnodi pan, efallai, o gofio bod y llwnc tost arferol yn mynd i gael ei achosi gan firws, nid gwrthfiotig ydy'r driniaeth orau. Mae'n bwysig i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o hynny yn ogystal â'r meddygon hefyd. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod angen codi ymwybyddiaeth, ond mai ein cyfrifoldeb ni i gyd ydy'r defnydd o wrthfiotig, neu'r camddefnydd neu'r gorddefnydd o wrthfiotig?
I'm not going to argue with a doctor; he is right in saying, of course, that there is a duty on us all to ensure that we don't over-request. There is a tendency for people to think, if you're ill, there's a pill to cure all ills. That's not the case, of course, and it's important that people realise that in some cases they don't need an antibiotic. Certainly, antibiotics wouldn't make a difference with a virus. So, I accept your point that this isn't simply a duty for doctors, it's a duty for the public as a whole.
Nid wyf yn mynd i goethan â doctor; mae e'n iawn i ddweud, wrth gwrs, fod yna ddyletswydd arnom ni i gyd i sicrhau nad ydym yn gorofyn. Mae yna dueddiad i bobl feddwl, os oes rhywbeth yn bod arnoch chi, fod yna bilsen i bopeth. Nid felly y mae hi, wrth gwrs, ac mae hi'n bwysig bod pobl yn sylweddoli, gyda rhai pethau, nad oes yn rhaid cael antibiotig. Byddai antibiotig ddim yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw gyda firws ta beth. Felly, rwy'n derbyn y pwynt nad yw hwn yn ddyletswydd dim ond i ddoctoriaid, ond yn ddyletswydd ar y cyhoedd yn gyfan gwbl.
First Minister, one of the problems, we are told, is that people aren't getting a diagnosis early enough and therefore, unfortunately, infections are ravishing them before the antibiotics can be prescribed. Given the difficulties that people in Wales are facing in accessing GP appointments, and the difficulties in securing responses and outcomes from diagnostic tests - many people wait many weeks sometimes for simple diagnostic tests not only to be undertaken but to get the results back from those tests - don't you also agree that we need determined action to address those problems if we're ever going to defeat this problem of antibiotic resistance?
Brif Weinidog, un o'r problemau, rydym ni'n clywed, yw nad yw pobl yn cael diagnosis yn ddigon cynnar, ac felly, yn anffodus, mae heintiau yn mynd drwyddynt cyn y gellir rhoi'r gwrthfiotigau ar bresgripsiwn. O ystyried yr anawsterau y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu o ran cael apwyntiadau â meddygon teulu, a'r anawsterau o ran cael ymatebion a chanlyniadau o brofion diagnostig - mae llawer o bobl yn aros wythnosau lawer weithiau, nid yn unig am i brofion diagnostig syml gael eu cynnal, ond i gael y canlyniadau yn ôl o'r profion hynny - onid ydych chi hefyd yn cytuno bod arnom angen gweithredu penderfynol i fynd i'r afael â'r problemau hynny os ydym byth yn mynd i drechu'r broblem hon o ymwrthedd i wrthfiotigau?
Indeed, and the Member will know that waiting times for diagnostic tests have plummeted. It was not acceptable that they were so long, and there's been a significant decrease of 20 per cent in a very short space of time, and that is something that we intend to continue with, in terms of that trend continuing in the future. But it's important as well that, for many people who go and see GPs, quite often they don't need to - they could go and see a pharmacist, they could go and see a GP practice nurse. We need to make sure that the message of Choose Well continues to be reinforced in the future and that people don't automatically assume that, if you go to the doctor, you must come out with a prescription. So, yes, there's a duty, of course, on all of us to ensure that that message is understood.
Yn wir, a bydd yr Aelod yn gwybod bod amseroedd aros am brofion diagnostig wedi gostwng yn aruthrol. Nid oedd yn dderbyniol eu bod cyhyd, a bu gostyngiad sylweddol o 20 y cant mewn cyfnod byr iawn o amser, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu ei barhau, o ran parhau'r duedd honno yn y dyfodol. Ond mae'n bwysig hefyd, i lawer o bobl sy'n mynd i weld meddygon teulu, yn aml iawn nid oes angen iddyn nhw wneud hynny - gallent fynd i weld fferyllydd, gallent fynd i weld nyrs practis meddygfa deulu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod neges Dewis Doeth yn parhau i gael ei hatgyfnerthu yn y dyfodol ac nad yw pobl yn cymryd yn ganiataol, os byddwch chi'n mynd at y meddyg, bod yn rhaid i chi ddod allan gyda phresgripsiwn. Felly, oes, mae dyletswydd, wrth gwrs, ar bob un ohonom i sicrhau bod y neges honno'n yn cael ei deall.
Immigration is a non-devolved matter, but the UK Government has recently announced a scheme to resettle some children from camps in Europe, and we're working with local authorities across Wales to prepare for this.
Mae mewnfudo'n fater nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun yn ddiweddar i ailgyfanheddu rhai plant o wersylloedd yn Ewrop, ac rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i baratoi ar gyfer hyn.
Thank you. We've all watched the crisis unfold, with a dramatic rise in the number of children on the move in Europe. According to Save the Children, they now make up one in three of those numbers this year, compared to one in 10 last year. It's fairly obvious that, for those children, the risks of staying at home are greater than facing the dangers of being on the move. Some of those dangers are a risk of violence to them, trafficking, or even drowning on their journey within or without Europe. It's good to see that the UK Government has finally backed down on its refusal to accept child refugees into Britain, but that promise is somewhat vague in terms of its delivery. So, could I ask you, First Minister, if the Welsh Government is in communication with the Home Office about how many children might be offered accommodation or safe sanctuary here in Wales, and what funding would be available, or made available, to both the Welsh Assembly and also Welsh councils to offer those places to those children?
Diolch. Rydym i gyd wedi gwylio'r argyfwng yn datblygu, gyda chynnydd aruthrol i nifer y plant sy'n symud ar draws Ewrop. Yn ôl Achub y Plant, maen nhw bellach yn cyfrif am un o bob tri o'r niferoedd hynny eleni, o'i gymharu ag un o bob 10 y llynedd. Mae'n weddol amlwg, i'r plant hynny, bod y risgiau o aros gartref yn fwy nag yw wynebu'r peryglon o symud. Mae'r perygl o drais tuag atynt, masnachu mewn pobl, neu hyd yn oed boddi ar eu taith yn Ewrop neu'r tu allan iddo ymhlith rhai o'r peryglon hynny. Mae'n braf gweld bod Llywodraeth y DU wedi newid ei meddwl o'r diwedd o ran gwrthod derbyn ffoaduriaid sy'n blant rhag dod i Brydain, ond mae'r addewid hwnnw braidd yn amwys o ran ei gyflawni. Felly, a gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref ynghylch faint o blant y gellir cynnig llety neu noddfa ddiogel iddynt yma yng Nghymru, a pha gyllid fyddai ar gael, neu'n cael ei rhoi ar gael, i Gynulliad Cymru a hefyd i gynghorau Cymru i gynnig y lleoedd hynny i'r plant hynny?
I can say that we established, as the Member will know, a ministerial Syrian refugee taskforce in November of last year. That is supported by an operations board to help co-ordinate the response, and a children's sub-group of that board has been established specifically to ensure co-ordination for resettling refugee children and unaccompanied asylum-seeking children across Wales. We take the view, of course, that whilst we are happy to resettle people who are refugees, this is a matter that requires financial assistance from the UK Government. So, that is the position that we've always taken, and that remains the position.
Gallaf ddweud ein bod wedi sefydlu, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria ym mis Tachwedd y llynedd. Mae hwnnw wedi'i ategu gan fwrdd gweithrediadau i helpu i gydgysylltu'r ymateb, a sefydlwyd is-grŵp plant i'r bwrdd hwnnw i sicrhau'n benodol cydgysylltiad ar gyfer ailgyfanheddu plant sy'n ffoaduriaid a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches ledled Cymru. Rydym ni o'r farn, wrth gwrs, er ein bod yn hapus i ailgyfanheddu pobl sy'n ffoaduriaid, mae hwn yn fater y mae angen cymorth ariannol ar ei gyfer gan Lywodraeth y DU. Felly, dyna'r safbwynt yr ydym ni wedi ei fabwysiadu erioed, a dyna'r safbwynt o hyd.
We're drawing up proposals to refresh the system of local air quality management in Wales, and public services boards have a key role in ensuring that.
Rydym ni'n llunio cynigion i adnewyddu'r system o reoli ansawdd aer lleol yng Nghymru, ac mae gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus swyddogaeth allweddol o ran sicrhau hynny.
The World Health Organization reported that urban air pollution continues to rise at an alarming rate, and listed Newport among the top five in Wales. With air pollution a public health issue, we know that large spikes in air pollution come during times of traffic congestion. Can the First Minister reassure my constituents that effective measures will be taken to relieve congestion coming through Newport on the M4?
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd fod llygredd aer trefol yn parhau i gynyddu ar raddfa frawychus, a rhestrodd Casnewydd ymhlith y pump uchaf yng Nghymru. Gan fod llygredd aer yn fater iechyd cyhoeddus, rydym ni'n gwybod y bydd cynnydd mawr i lygredd aer yn ystod cyfnodau o dagfeydd traffig. A all y Prif Weinidog roi sicrwydd i'm hetholwyr y bydd mesurau effeithiol yn cael eu cymryd i leddfu tagfeydd sy'n dod drwy Gasnewydd ar yr M4?
Yes, we know that congestion is a daily problem on the M4 and the Brynglas tunnels. It isn't going to go away. It does need to be addressed, and it is a significant cause of air pollution as cars idle, both in the tunnels and waiting to go into the tunnels. That does have, of course, a detrimental effect on air quality. So, removing those traffic jams will be hugely important in improving air quality in the future.
Ie, rydym ni'n gwybod bod tagfeydd yn broblem feunyddiol ar yr M4 a thwneli Brynglas. Nid yw'n mynd i ddiflannu. Mae angen rhoi sylw iddo, ac mae'n un o'r prif achosion o lygredd aer pan fo ceir yn segur, yn y twneli ac wrth aros i fynd i mewn i'r twneli. Mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar ansawdd yr aer. Felly, bydd cael gwared ar y tagfeydd traffig hynny yn hynod bwysig i wella ansawdd aer yn y dyfodol.
No representations, but we are aware of the issues and we support the National Union of Mineworkers in their call for a review.
Dim sylwadau, ond rydym ni'n ymwybodol o'r problemau ac rydym ni'n cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn eu galwad am adolygiad.
I thank the First Minister for his answer. He's no doubt aware that in return for underwriting the mineworkers pension scheme, the UK Government takes a significant share of that scheme's surplus. Indeed, in one year alone, that windfall amounted to three quarters of £1 billion. Miners' pensions have been turned into a cash cow for the British state. Will the First Minister consider working with former mineworkers and other stakeholders with a view to publish distinct Welsh Government proposals for the future and for improving the mineworkers pension scheme with a view to pursuing them at a UK level in the future?
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr ei fod yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU yn cymryd cyfran sylweddol o warged y cynllun pensiwn glowyr yn gyfnewid am danysgrifennu'r cynllun hwnnw. Yn wir, mewn un flwyddyn yn unig, roedd y swm hwnnw yn dod i gyfanswm o dri chwarter o £1 biliwn. Mae pensiynau glowyr wedi eu troi'n ffynhonnell arian i wladwriaeth Prydain. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried gweithio gyda chyn-lowyr a rhanddeiliaid eraill gyda'r nod o gyhoeddi cynigion ar wahân gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer gwella cynllun pensiwn y glowyr gyda'r nod o'u dilyn ar lefel y DU yn y dyfodol?
Well, this is one of those pension funds, few though they are, that has been so successful that it's provided more money than was anticipated for the UK Government. And that clearly can't be right. We will be guided by the NUM, because they have called for a review, and rightly so. I know that they will be meeting soon with the scheme's trustees as well to re-examine this. But, no, certainly, it can't be the case that the miners pension fund should be seen as a way of generating money for the UK Government. And much more needs to be done to make sure there is a benefit for those who are recipients of pensions to ensure that they get a fair share of the pension fund's profits. That is not the case at the moment and we'll support the NUM in their call for a review.
Wel, mae hon yn un o'r cronfeydd pensiwn hynny, er eu bod yn brin, sydd wedi bod mor llwyddiannus fel ei bod wedi darparu mwy o arian na ragwelwyd i Lywodraeth y DU. A does bosib y gall hynny fod yn iawn. Byddwn yn cael ein llywio gan yr NUM, gan ei fod wedi galw am adolygiad, a hynny'n briodol. Gwn y byddant yn cyfarfod yn fuan ag ymddiriedolwyr y cynllun hefyd i ailystyried hyn. Ond, na, yn sicr, ni all fod yn wir y dylai cronfa pensiwn y glowyr gael ei hystyried yn ffordd o gynhyrchu arian i Lywodraeth y DU. Ac mae angen gwneud llawer mwy i wneud yn siŵr bod budd i'r rhai sy'n derbyn pensiynau er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfran deg o elw'r gronfa bensiwn. Nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd a byddwn yn cefnogi'r NUM yn eu galwad am adolygiad.
First of all, can I thank the Member for such an early opportunity to answer questions here in this Chamber? The decision to cut support for part-time postgraduate study in Wales is a matter for the Higher Education Funding Council for Wales. The Welsh Government has no power to direct the funding council as to how to allocate the funds made available for higher education.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i'r Aelod am gyfle mor gynnar i ateb cwestiynau yma yn y Siambr hon? Mater i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yw'r penderfyniad i dorri cymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig rhan-amser yng Nghymru. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i gyfarwyddo'r cyngor cyllido ynghylch sut i ddyrannu'r arian sydd ar gael ar gyfer addysg uwch.
I'd like to thank the education Secretary for that and welcome her to her role. The loss of support for part-time postgraduate study means that some Welsh universities will face significant percentage cuts in their total HEFCW funding. So, for example: Cardiff Metropolitan University will lose 25 per cent of its grant; Glyndŵr some 20 per cent; and a university such as Cardiff is going to lose over £2 million. Whilst I accept the fact that HEFCW have the right to allocate the money as they see fit, education Secretary, I would like to understand what measures you might consider putting in place, given these cuts that have been announced. Part-time postgraduate educational study is vital for the development of our people, vital for career development, vital for postgraduate research work and is, in essence, a part of our university life and something that universities themselves treasure dearly. My concern is, with these cuts at the extent that they are - i.e., there's no funding at all, again, anywhere for postgraduate part-time study - then we're going to be basically disenfranchising an incredibly important cohort of our mature student base and I think that Welsh Government needs to have some responsibility in directing HEFCW or seeing what can be done to mitigate these problems, because it will become a real issue in the development of our culture going forward.
Hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd addysg am hynny a'i chroesawu i'w swydd. Mae colli cefnogaeth i astudiaethau ôl-raddedig rhan-amser yn golygu y bydd rhai o brifysgolion Cymru yn wynebu toriadau canran sylweddol i gyfanswm eu cyllid gan CCAUC. Felly, er enghraifft: bydd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn colli 25 y cant o'i grant; Glyndŵr tua 20 y cant; ac mae prifysgol fel Caerdydd yn mynd i golli dros £2 filiwn. Er fy mod i'n derbyn y ffaith bod gan CCAUC yr hawl i ddyrannu'r arian fel y mae'n credu sy'n briodol, Ysgrifennydd addysg, hoffwn ddeall pa fesurau y byddwch chi'n ystyried eu rhoi ar waith, o ystyried y toriadau hyn sydd wedi eu cyhoeddi. Mae astudiaethau addysgol ôl-raddedig rhan-amser yn hanfodol ar gyfer datblygiad ein pobl, yn hanfodol ar gyfer datblygiad gyrfaol, yn hanfodol ar gyfer gwaith ymchwil ôl-raddedig ac mae, yn ei hanfod, yn rhan o'n bywyd prifysgol ac yn rhywbeth y mae'r prifysgolion eu hunain yn ei drysori'n fawr. Fy mhryder i, gyda'r toriadau hyn i'r graddau y maen nhw'n cael eu gwneud - h.y., nid oes unrhyw gyllid o gwbl, eto, mewn unrhyw le ar gyfer astudiaeth ran-amser ôl-raddedig - yw ein bod fwy neu lai'n mynd i fod yn difreinio rhan hynod bwysig o'n sail myfyrwyr aeddfed ac rwy'n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb o ran cyfeirio CCAUC neu weld beth ellir ei wneud i liniaru'r problemau hyn, gan y bydd yn broblem wirioneddol o ran datblygu ein diwylliant yn y dyfodol.
Can I thank the Member for her supplementary question and her good wishes? Part-time is a priority for this administration and is key to opening up opportunities for individuals to upskill and improve their employment prospects. Therefore, I was very pleased that HEFCW have recognised the importance of part-time provision and have been able to maintain its support at undergraduate level. I recognise what she says about postgraduate level. As she will be aware, I have recently taken up the post of Cabinet Secretary for Education and I'm working with officials to gain a fuller understanding of the funds and finances available to higher education students and to the institutions in which they study in Wales.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol a'i dymuniadau da? Mae rhan-amser yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon ac mae'n allweddol i greu cyfleoedd i unigolion uwchsgilio a gwella eu rhagolygon am gyflogaeth. Felly, rwy'n falch iawn bod CCAUC wedi cydnabod pwysigrwydd darpariaeth ran-amser ac wedi gallu cynnal ei gefnogaeth ar lefel israddedig. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud am lefel ôl-raddedig. Fel y bydd yn ymwybodol, rwyf wedi derbyn swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ddiweddar ac rwy'n gweithio gyda swyddogion i gael dealltwriaeth lawnach o'r cronfeydd a'r cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr addysg uwch ac i'r sefydliadau y maent yn astudio ynddynt yng Nghymru.
Welcoming the education Secretary to her new role, can I ask her, first of all, if she will, therefore, publish the remit letter that she has issued, or her predecessor has issued, to HEFCW, so we can understand the circumstance in which this decision was made? This directly arises, of course, from the cut to HEFCW's grant, which the previous Labour Government brought in and which she supported, she said, with pride. So, can she explain now how she will put in place what has been described by HEFCW as essential and important for Welsh universities, namely similar incentives to those offered by other similar universities otherwise they will be defeated by strong competition? That was the evidence that HEFCW gave the committee here, before the election. And will she, in her review with her officials, be looking to introduce her policy, which she stood on in the past election, of introducing an enhancement bursary for postgraduates? Is the enhancement nothing?
Gan groesawu'r Ysgrifennydd addysg i'w swydd newydd, a gaf i ofyn iddi, yn gyntaf oll, a wnaiff hi, felly, gyhoeddi'r llythyr cylch gwaith y mae wedi ei gyflwyno, neu y mae ei rhagflaenydd wedi ei gyflwyno, i CCAUC, fel y gallwn ddeall o dan ba amgylchiadau y gwnaed y penderfyniad hwn? Mae hyn yn deillio'n uniongyrchol, wrth gwrs, o'r toriad i grant CCAUC, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol ac a gefnogwyd ganddi, meddai, gyda balchder. Felly, a all hi esbonio nawr sut y bydd yn rhoi ar waith yr hyn a ddisgrifiwyd gan CCAUC fel rhywbeth sy'n hanfodol a phwysig i brifysgolion Cymru, sef cymhellion tebyg i'r rhai a gynigir gan brifysgolion eraill tebyg, neu fel arall byddant yn cael eu trechu gan gystadleuaeth gref? Dyna oedd y dystiolaeth a roddodd CCAUC i'r pwyllgor yma, cyn yr etholiad. Ac a fydd hi, yn ei hadolygiad gyda'i swyddogion, yn bwriadu cyflwyno ei pholisi, y gwnaeth hi sefyll ar ei sail yn yr etholiad diwethaf, o gyflwyno bwrsariaeth chwyddo ar gyfer ôl-raddedigion? Ai dim yw'r chwyddiant?
Could I thank the Member for his question this afternoon also? HEFCW's remit letter for 2016-17, which was written by the previous Minister, did task the council with developing a strategy for HE in Wales, which, amongst other things, did identify in which ways the councils and providers would work together to find innovative ways to encourage part-time study, and to create opportunities to extend part-time provision. The Member will be more than aware that the future of all these issues - of funding of both undergraduate and postgraduate, full-time and part-time - is the subject of the review of the higher education funding and student finance arrangements in Wales, chaired by Sir Ian Diamond. That is due to report later on this summer. I do not want to pre-empt the hard and serious work that has gone on by members of the Diamond review, and so I look forward to reading - [Interruption.] - and so I look forward to reading the report, when it is published, and considering its recommendations with Cabinet colleagues.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn y prynhawn yma hefyd? Roedd llythyr cylch gwaith CCAUC ar gyfer 2016-17, a ysgrifennwyd gan y Gweinidog blaenorol, yn gofyn i'r cyngor ddatblygu strategaeth ar gyfer AU yng Nghymru, a wnaeth, ymhlith pethau eraill, nodi ym mha ffyrdd y byddai cynghorau a darparwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o annog astudiaeth ran-amser, ac i greu cyfleoedd i ymestyn y ddarpariaeth ran-amser. Bydd yr Aelod yn fwy nag ymwybodol mai dyfodol yr holl faterion hyn - o ariannu'r israddedig ac ôl-raddedig, y llawn amser a'r rhan-amser - yw testun yr adolygiad o drefniadau cyllido addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Ian Diamond. Disgwylir i hwnnw gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr haf hwn. Nid wyf eisiau achub y blaen ar y gwaith caled a phwysig sydd wedi ei wneud gan aelodau adolygiad Diamond, ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen - [Torri ar draws.] - ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen yr adroddiad, pan gaiff ei gyhoeddi, ac ystyried ei argymhellion gyda chydweithwyr yn y Cabinet.
Statement by the First Minister on Cabinet appointments. And I call on the First Minister, Carwyn Jones.
Datganiad gan y Prif Weinidog ar benodiadau i'r Cabinet. Ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. I don't have too many questions for the First Minister on this, and I would like to congratulate all his appointees. Llongyfarchiadau i chi gyd. First Minister, you said earlier in answer to questions that all of your Members would be bound by collective Cabinet responsibility. How then will you resolve difficult questions like whether or not the M4 black route goes ahead, if there's disagreement between members of the Cabinet on specific issues? I'd like reassurances from the First Minister that the Welsh language has not been downgraded in this Cabinet. Previously, it was the First Minister's responsibility, so I'd be grateful to hear what he can say to those of us who are concerned about this, to reassure us that the future of the Welsh language and its growth are important to this Government, and will not be treated as an afterthought. I'd be grateful to know who in Government is responsible for resolving the Public and Commercial Services Union museum dispute. I wrote to you about this yesterday, having first written to your Government about it over a year ago. Now, you've previously said that you intend to intervene to resolve this dispute. Is it your responsibility, First Minister, or does that now fall to another Member of your Cabinet? Likewise, I'd be grateful to hear who in your Cabinet has responsibility for trade union legislation. Will the First Minister retain responsibility for steel and the EU referendum? And, finally, can we please have some clarity as to who takes responsibility for the question of student finance? You've got three Ministers in your Cabinet with a role in education - one for skills, one for lifelong learning, and another for education. Three separate portfolios. Which Minister will take the final decision on the future of student finance here in Wales please?
Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o gwestiynau i'r Prif Weinidog ynglŷn â hyn, a hoffwn longyfarch pawb a benodwyd ganddo. Congratulations to you all. Brif Weinidog, dywedasoch yn gynharach wrth ateb cwestiynau y byddai eich holl Aelodau yn rhwymedig i gydgyfrifoldebau'r Cabinet. Sut felly y byddwch yn datrys cwestiynau anodd megis pa un a fydd llwybr du yr M4 yn mynd yn ei flaen ai peidio, os oes anghytundeb rhwng aelodau o'r Cabinet ar faterion penodol? Hoffwn gael sicrhad gan y Prif Weinidog nad yw'r Gymraeg wedi ei hisraddio yn y Cabinet hwn. Yn flaenorol, cyfrifoldeb y Prif Weinidog oedd hyn, felly byddwn yn ddiolchgar o glywed beth y gall ef ei ddweud wrth y rhai ohonom sydd yn pryderu am hyn, er ein sicrhau bod dyfodol y Gymraeg a'i thwf yn bwysig i'r Llywodraeth hon, ac na fydd yn cael ei thrin fel ôl-ystyriaeth. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pwy yn y Llywodraeth sy'n gyfrifol am ddatrys anghydfod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn yr amgueddfeydd. Ysgrifennais atoch ynglŷn â hyn ddoe, ar ôl ysgrifennu'n gyntaf at eich Llywodraeth ynghylch hyn dros flwyddyn yn ôl. Nawr, rydych wedi dweud o'r blaen eich bod yn bwriadu ymyrryd er mwyn datrys yr anghydfod hwn. Ai eich cyfrifoldeb chi yw hwn, Brif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb Aelod arall o'ch Cabinet ydyw erbyn hyn? Yn yr un modd, byddwn yn ddiolchgar o glywed pwy yn eich Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros ddeddfwriaeth undebau llafur. A fydd y Prif Weinidog yn parhau i fod yn gyfrifol am ddur ac am refferendwm yr UE? Ac, yn olaf, a fyddwch cystal ag egluro pwy sy'n gyfrifol am gyllid myfyrwyr? Mae gennych dri Gweinidog yn eich Cabinet sydd â swyddogaeth yn ymwneud ag addysg - un ar gyfer sgiliau, un ar gyfer dysgu gydol oes, ac un arall ar gyfer addysg. Tri portffolio ar wahân. Pa Weinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â chyllid myfyrwyr yma yng Nghymru os gwelwch yn dda?
First of all, in terms of the first question, yes, collective responsibility applies. Where there are disagreements, they will be dealt with in the ways that they were when there was a coalition with her party, or indeed with the Liberal Democrats in years gone by. There will be machinery in place to make sure these issues are identified early, in order for there to be agreement. That's a well-established process; we had it for the four years of the Labour-Plaid Cymru coalition. There is no downgrading of the Welsh language. It was always a matter for a portfolio Minister. That will be the case in the future, but given my background and my long-held support for the language, there's no question of it being downgraded. On the PCS dispute, Ken Skates, as Minister, has been involved in this. We expect to see a settlement, hopefully very, very soon, and I thank him for the work that he has done in ensuring that there is a satisfactory outcome as far as the workers are concerned. That work took place last week. On the trade union Bill, and the repeal of the sections of the Act that we disagree with, and we believe are within the competence of this Assembly, it will be Mark Drakeford, as Minister, who is responsible for taking that legislation through. On the EU referendum, that remains my responsibility. On the issue of Tata, that remains my responsibility. In time, steel will become part of the economy and infrastructure portfolio, but I will keep Tata. On student finance, that's a matter for Kirsty Williams, as Cabinet Secretary for Education.
Yn gyntaf oll, o ran y cwestiwn cyntaf, ydy, mae cydgyfrifoldeb yn berthnasol. Os ceir anghytundebau, byddant yn cael eu trin yn yr un modd ag yr oeddent yn cael eu trin pan oedd clymblaid â'i phlaid hi, neu yn wir, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y blynyddoedd a fu. Bydd dulliau ar waith i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi yn gynnar, er mwyn cael cytundeb. Mae'r broses hon wedi'i hen sefydlu; cafodd ei defnyddio gennym yn ystod pedair blynedd y glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Nid yw'r Gymraeg yn cael ei hisraddio o gwbl. Roedd bob amser yn fater ar gyfer Gweinidog portffolio. Dyna fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond o ystyried fy nghefndir a'm cefnogaeth ddyfal dros yr iaith, nid oes unrhyw siawns iddi gael ei hisraddio. O ran yr anghydfod ynglŷn â'r PCS, mae Ken Skates, gan mai ef yw'r Gweinidog, wedi bod yn rhan o hyn. Rydym yn disgwyl gweld setliad, yn fuan iawn, iawn, gobeithio ac yr wyf yn diolch iddo am y gwaith y mae wedi ei wneud i sicrhau y bydd canlyniad boddhaol ar gyfer y gweithwyr. Cynhaliwyd y gwaith hwnnw yr wythnos diwethaf. Mark Drakeford, fel y Gweinidog, fydd yn gyfrifol am wthio bil yr undebau llafur yn ei flaen, ac yn gyfrifol am ddiddymu yr adrannau hynny o'r Ddeddf yr ydym yn anghytuno â nhw ac yr ydym yn credu eu bod o fewn cymhwysedd y Cynulliad hwn. Ynglŷn â refferendwm yr UE, fy nghyfrifoldeb i fydd hynny o hyd. O ran mater Tata, bydd hwnnw'n parhau i fod yn gyfrifoldeb i mi. Ymhen amser, bydd dur yn dod yn rhan o'r portffolio economi a seilwaith, ond byddaf i'n parhau i fod yn gyfrifol am Tata. O ran cyllid myfyrwyr, mater i Kirsty Williams yw hwnnw, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Minister, thank you for your statement this afternoon, and I too congratulate all the Secretaries - sorry; they're not Ministers now - on their appointments that you made last week, and I wish them well in their endeavours, in fairness. They might politically be on the opposite side of the fence from me, but obviously many people are depending on the decisions that you and your officials take, and, actually, I don't think it's worth any of us wishing you ill because a lot of people will fall by the wayside if you do slip up. But, we will as an opposition obviously hold you to account and we will not be slow in coming forward in making sure that you are held to account for the decisions and actions that you take as a Government - indeed, as a coalition Government now, obviously with the Lib Dems sitting on the front bench there with you. I'd be grateful, First Minister, if you could elaborate more on the agreement that you reached with the Welsh nationalists last week in relation to the consultative committees or groups. I'm not quite sure what their stature is, or what their formal role within Government is, and I don't think many other people are, to be honest with you. And I think your comments on Sunday alluded to the fact that you too were slightly confused on infrastructure, as to exactly what Plaid Cymru were asking for when it came to the infrastructure request to your Government. So, I'd be grateful if you could outline exactly how those working groups or committees will work within Government. In particular, you've said that your Government would provide Ministers as representatives, and obviously the secretariat would be from the civil service. Is it to be taken that from Plaid Cymru, then, that the representatives will be Assembly Members or can they nominate anyone to sit on those working groups? And will the Government be bound by the outcomes of those committees and working groups that have been established via the agreement that you reached last week that allowed your nomination to go forward? I'd also like to understand exactly now where Betsi stands, because obviously the Deputy Minister had responsibility for the special measures that were introduced at Betsi Cadwaladr in the north, and I presume that's still the case, that it is the Deputy Minister, or has that transferred to the full Minister - the Secretary, should I say - the full Secretary of health in this new Government? Are you able to highlight any progress on Betsi moving out of special measures? That would give great assurance to the many people who depend on the services of that local health board. I also welcome Lesley Griffiths to her role of rural affairs and environment. I have a special interest in that with my farming background and I do note that you talk about emphasis on local action. One of the big issues where I would suggest the farming community in particular want to see progress from the new Government is on bovine TB. I'd be grateful if you do see that as a priority area for your new Government, given, obviously, the vaccination programme that was paused in the last Assembly. I believe I'm correct in saying the word 'pause', because the vaccine was stopped. What clarity can you give, with your new Government now in place, as to what actions you might be taking to eradicate - and I use the word, 'eradicate' - bovine TB from Wales? I'd also like to understand exactly how the Cabinet office is going to work. Last week in your statement you touched on that the Government would be forming a Cabinet office, as opposed to this time in the last Assembly when there was much talk of the delivery unit. Now, as I understand it from your comments last week, the delivery unit is developing into a Cabinet office. I'm not quite sure what the difference would be, but if you could tell us, because I think we all do actually want to see greater delivery and greater clout from such an organisation. Would it be responsible to you, as the First Minister, or will it be responsible to the leader of the house, because obviously the delivery unit was reporting into you, the First Minister's office? I'd like to build on the comments that the leader of Plaid Cymru talked about, in particular education, because actually it stretches across four departments, I would suggest. You've got children with Carl Sargeant, you've got skills with Julie James, you've got the education portfolio of Kirsty Williams and then you've got lifelong learning with Alun Davies. In devising your Cabinet, why have you deemed it necessary to have so many functions that affect so many young people across the whole of Government? I take it that responsibilities do touch many departments, but you've clearly designated those responsibilities to four different portfolio holders, and I do think it's important to understand what your thinking was in doing that, and how you believe that function will be delivered across Government so that there will be continuity and delivery of the aspirations that you'll set out, no doubt, in your programme for government. I will close on the final remark that I'd like to make, in that you have brought Alun Davies back into Government. I do wish him well in his endeavours as Deputy Minister, but I do draw on your comments when Alun Davies left the Government in 2014, and in particular as I've been one of the Members the information he was seeking from the Government records - . You said that the only conclusion was that he wanted this information to be used against those Members. When asked and pressed, you said you envisaged it being very difficult to see him coming back into Government. So, what has happened in the intervening period that you can have reassurances that there'll be no repetition of the episode that led him to leave your Government back in 2014? Because, at that time you clearly couldn't give those assurances and I do think it's incumbent on you as the First Minister who's appointed him this time around to give us the assurances that we require.
Weinidog, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf hefyd yn llongyfarch yr holl Ysgrifenyddion - mae'n ddrwg gennyf; nid ydynt yn Weinidogion bellach - am gael eu penodi gennych chi yr wythnos diwethaf, ac rwyf yn dymuno yn dda iddynt yn eu hymdrechion, er tegwch. Efallai eu bod ar ochr arall y ffens i mi yn wleidyddol, ond yn amlwg mae llawer o bobl yn dibynnu ar y penderfyniadau yr ydych chi a'ch swyddogion yn eu gwneud, ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn credu ei bod yn werth i unrhyw un ohonom deimlo unrhyw atgasedd tuag atoch gan y bydd llawer o bobl yn dioddef os byddwch yn gwneud camgymeriadau. Ond, byddwn ni fel gwrthblaid yn amlwg yn eich dwyn i gyfrif ac ni fyddwn yn dal her rhag gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich dwyn i gyfrif am y penderfyniadau a'r gweithredoedd y byddwch yn eu gwneud fel Llywodraeth - yn wir, fel Llywodraeth glymblaid bellach, yn amlwg gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eistedd ar y fainc flaen gyda chi yn y fan yna. Byddwn yn ddiolchgar, Brif Weinidog, pe gallech ymhelaethu ymhellach ar y cytundeb y gwnaethoch â'r cenedlaetholwyr Cymreig yr wythnos diwethaf o ran y pwyllgorau neu grwpiau ymgynghorol. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw eu statws, na beth yw eu swyddogaeth ffurfiol yn y Llywodraeth, ac nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl eraill yn gwybod ychwaith, i fod yn onest â chi. Ac rwyf yn meddwl bod eich sylwadau ddydd Sul yn cyfeirio at y ffaith eich bod chithau hefyd wedi drysu ychydig ynglŷn â seilwaith, ynglŷn â beth yn union yr oedd Plaid Cymru yn ofyn amdano o ran y cais seilwaith i'ch Llywodraeth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut yn union y bydd y grwpiau neu'r pwyllgorau gwaith hynny yn gweithio o fewn y Llywodraeth. Yn arbennig, rydych wedi dweud y byddai eich Llywodraeth yn darparu Gweinidogion fel cynrychiolwyr, ac yn amlwg byddai'r ysgrifenyddiaeth yn dod o'r gwasanaeth sifil. A yw'n ddisgwyliedig gan Blaid Cymru felly, y bydd y cynrychiolwyr yn Aelodau'r Cynulliad neu a gânt enwebu unrhyw un i fod ar y gweithgorau hynny? Ac a fydd y Llywodraeth yn rhwymedig i ganlyniadau'r pwyllgorau a'r gweithgorau hynny a sefydlwyd drwy'r cytundeb a wnaethoch yr wythnos diwethaf a oedd yn caniatáu i'ch enwebiad fynd ymlaen? Hoffwn hefyd ddeall yn union nawr lle y mae Betsi yn sefyll, oherwydd yn amlwg roedd gan y Dirprwy Weinidog gyfrifoldeb am y mesurau arbennig a gyflwynwyd yn Betsi Cadwaladr yn y gogledd, ac yr wyf yn tybio bod hynny'n wir o hyd, sef mai'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol, neu a yw'r cyfrifoldeb wedi'i drosglwyddo i'r Gweinidog llawn - yr Ysgrifennydd, ddylwn i ddweud - yr Ysgrifennydd iechyd llawn yn y Llywodraeth newydd hon? A ydych chi'n gallu nodi unrhyw gynnydd o ran Betsi yn symud allan o fesurau arbennig? Byddai hynny'n rhoi cryn sicrwydd i'r nifer fawr o bobl sy'n dibynnu ar wasanaethau'r bwrdd iechyd lleol hwnnw. Rwyf hefyd yn croesawu Lesley Griffiths i'w swyddogaeth materion gwledig a'r amgylchedd. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn hynny oherwydd fy nghefndir amaethyddol ac rwyf yn nodi eich bod yn sôn am roi pwyslais ar weithredu'n lleol. Un o'r prif faterion y byddwn yn awgrymu y byddai'r gymuned amaethyddol yn benodol eisiau gweld cynnydd gan y Llywodraeth newydd ynglŷn ag ef yw TB mewn gwartheg. Byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn gweld hynny fel blaenoriaeth ar gyfer eich Llywodraeth newydd, o ystyried, yn amlwg, fod y rhaglen frechu wedi ei hatal dros dro yn y Cynulliad diwethaf. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud y geiriau 'atal dros dro', oherwydd rhoddwyd y gorau i roi'r brechlyn. Pa eglurder y gallwch ei roi, gan fod eich Llywodraeth newydd wedi'i sefydlu bellach, ynghylch pa gamau y gallech chi eu cymryd i ddileu - ac rwyf yn defnyddio'r gair 'dileu' - TB mewn gwartheg yng Nghymru? Hoffwn hefyd ddeall yn union sut y mae swyddfa'r Cabinet yn mynd i weithio. Yr wythnos diwethaf yn eich datganiad cyfeiriasoch at y ffaith y byddai'r Llywodraeth yn ffurfio swyddfa Cabinet, yn wahanol i'r adeg hon yn y Cynulliad diwethaf pan oedd llawer o sôn am yr uned gyflawni. Nawr, fel yr wyf wedi deall o'ch sylwadau yr wythnos diwethaf, mae'r uned gyflawni yn datblygu i fod yn swyddfa Cabinet. Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r gwahaniaeth, efallai y gallech chi ddweud wrthym, oherwydd credaf ein bod i gyd mewn gwirionedd yn awyddus i weld mwy o gyflawni a mwy o ddylanwad gan sefydliad o'r fath. Ai eich cyfrifoldeb chi, fel Prif Weinidog, neu ai cyfrifoldeb arweinydd y tŷ fydd hwn, oherwydd mae'n amlwg bod yr uned gyflawni yn adrodd i chi, swyddfa'r Prif Weinidog? Hoffwn ymhelaethu ar y sylwadau a wnaeth arweinydd Plaid Cymru, yn benodol ar addysg, oherwydd mewn gwirionedd, byddwn yn awgrymu ei fod yn cwmpasu pedair adran. Carl Sargeant sy'n gyfrifol am blant, Julie James sy'n gyfrifol am sgiliau, Kirsty Williams sy'n gyfrifol am y portffolio addysg ac Alun Davies sy'n gyfrifol am ddysgu gydol oes. Wrth lunio eich Cabinet, pam yr ydych wedi barnu ei bod yn angenrheidiol cael cymaint o swyddogaethau sy'n effeithio ar gynifer o bobl ifanc ym mhob rhan o'r Llywodraeth? Rwyf yn cymryd bod llawer o adrannau yn rhannu cyfrifoldebau, ond rydych wedi neilltuo'r cyfrifoldebau hynny yn glir i bedwar deiliad portffolio gwahanol, ac rwyf yn credu ei bod yn bwysig deall beth oedd eich meddylfryd wrth wneud hynny, a sut yr ydych yn credu y bydd y swyddogaeth honno yn cael ei chyflwyno ar draws y Llywodraeth fel y ceir dilyniant ac y bydd y dyheadau y byddwch yn eu nodi, yn ddiau, yn cael eu cyflawni yn eich rhaglen lywodraethu. Byddaf yn terfynu gyda'r sylw olaf yr hoffwn ei wneud, sef eich bod wedi dod ag Alun Davies yn ôl i'r Llywodraeth. Rwyf yn dymuno'n dda iddo yn ei ymdrechion fel Dirprwy Weinidog, ond rwyf yn cyfeirio at eich sylwadau pan adawodd Alun Davies y Llywodraeth yn 2014, ac yn enwedig gan fy mod i yn un o'r Aelodau, yr oedd yn ceisio cael gwybodaeth amdano o gofnodion y Llywodraeth - . Dywedasoch mai'r unig gasgliad oedd ei fod eisiau i'r wybodaeth hon gael ei defnyddio yn erbyn yr Aelodau hynny. Pan ofynnwyd i chi a phan roddwyd pwysau arnoch i ateb, dywedasoch eich bod yn rhagweld ei bod yn anodd iawn ei weld yn dod yn ôl i'r Llywodraeth. Felly, beth sydd wedi digwydd yn y cyfamser sy'n rhoi sicrwydd i chi na fydd digwyddiad o'r fath, a achosodd iddo adael eich Llywodraeth yn ôl yn 2014, yn digwydd eto? Oherwydd, ar y pryd nid oeddech yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw ac rwyf yn credu ei fod yn ddyletswydd arnoch chi fel y Prif Weinidog sydd wedi ei benodi y tro hwn i roi'r sicrwydd yr ydym yn dymuno ei gael i ni.
A number of questions there. Firstly, on the agreement with Plaid Cymru, yes, there are some issues like the national infrastructure commission where there are different views as to what that might look like, but that's what the discussions will be about. There are three committees that have been set up. Their objective is to identify issues such as legislation early on to see where there is common ground and where there isn't, and the same with the budget. That's, I believe, a sensible working arrangement between two parties with a view to achieving agreement in the months to come, and that is something I very much welcome. I would anticipate that the committee would be made up of representatives from different parties - that's true. It's a matter for Plaid Cymru who they choose to represent them on those committees, but, from our side, it will of course be a Minister. The leader of the Conservatives talked about being bound by the outcomes of those committees. That's not the nature of the committees. The committees are there to achieve agreement, and once that agreement is achieved then of course both parties are in a position where the parties will be able to support that agreement. On Betsi Cadwaladr, that will stay with Vaughan Gething. He's familiar with the situation in Betsi. It makes sense for Betsi to remain with him within his responsibilities, and he will report back in due course on progress. On bovine TB, we will, of course, take a science-based approach. One of the first things that the Minister will be looking at is what the next stages will be in terms of dealing with bovine TB. Yes, he is right to say that the delivery unit is no more. Some of his Members who are no longer here will claim that as a great victory - I've no doubt about that after the slightly obsessive approach that was taken by a former Member of this place. The Cabinet office basically is, in effect, the First Minister's office. It is answerable entirely to me. It will have many different roles, such as, for example, co-ordinating the legislative programme, co-ordinating the Cabinet agenda and also identifying issues that need to be dealt with early on a cross-Government basis. There is no mystery about that; that's what it will do. On children, I've allocated portfolios according to what I think at this moment in time is the best fit, but, at the end of the day, Cabinet Ministers and Cabinet Secretaries don't live and exist in silos. There is always cross-Government working and that's why, for example, when it comes to an issue like student finance, that will be a Cabinet decision. Of course, there are portfolio Ministers who take decisions on a day-to-day basis but there are major decisions that need full Cabinet input. That's the way it's always been and that's the way it will be in the future. In terms of Alun Davies, well, Alun, what happened in the past is the past. I've no doubt at all that he will be an excellent Minister and somebody who will bring a great deal of expertise to the Government, as will all Ministers. All Ministers have been issued with a copy of the ministerial code and, of course, Ministers will be required to indicate to me that they've read it, and that's true of all Ministers. I'm glad to have the range of expertise available to me that I have.
Mae nifer o gwestiynau yn y fan yna. Yn gyntaf, ynglŷn â'r cytundeb â Phlaid Cymru, oes, mae rhai materion fel y comisiwn seilwaith cenedlaethol lle y ceir gwahanol farn o ran beth a allai hyn fod, ond dyna fydd testun y trafodaethau. Mae tri phwyllgor wedi eu sefydlu. Eu hamcan yw nodi materion megis deddfwriaeth yn gynnar i weld lle y ceir tir cyffredin a lle na cheir tir cyffredin, ac yr un gyda'r gyllideb. Mae hynny, yn fy marn i, yn drefniant gwaith call rhwng dwy blaid gyda'r bwriad o ddod i gytundeb yn y misoedd nesaf, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei groesawu'n fawr iawn. Rwyf yn rhagweld y bydd y pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr o wahanol bleidiau - mae hynny'n wir. Mater i Blaid Cymru yw dewis pwy fydd yn eu cynrychioli ar y pwyllgorau hynny, ond, o'n hochr ni, Gweinidog fydd yn ein cynrychioli wrth gwrs. Siaradodd arweinydd y Ceidwadwyr am fod yn rhwymedig i ganlyniadau'r pwyllgorau hynny. Nid dyna natur y pwyllgorau. Mae'r pwyllgorau yno er mwyn dod i gytundeb, ac ar ôl cyrraedd y cytundeb hwnnw, wedyn wrth gwrs, bydd y ddwy blaid mewn sefyllfa lle bydd y pleidiau yn gallu cefnogi'r cytundeb hwnnw. O ran Betsi Cadwaladr, Vaughan Gethin fydd yn parhau i fod yn gyfrifol amdano. Mae'n gyfarwydd â'r sefyllfa yn Betsi. Mae'n gwneud synnwyr iddo barhau i fod yn gyfrifol am Betsi, a bydd ef yn adrodd yn ôl maes o law ynglŷn â chynnydd. O ran TB mewn gwartheg, byddwn, wrth gwrs, yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar wyddoniaeth. Un o'r pethau cyntaf y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno fydd y camau nesaf o ran ymdrin â TB mewn gwartheg. Ydy, mae'n iawn i ddweud nad yw'r uned gyflenwi yn bodoli mwyach. Bydd rhai o'r Aelodau nad ydynt yma bellach yn gweld hynny fel buddugoliaeth fawr - nid oes gennyf unrhyw amheuaeth am hynny ar ôl yr ymagwedd braidd yn obsesiynol a gymerwyd gan gyn Aelod o'r lle hwn. I bob pwrpas, swyddfa'r Cabinet yw swyddfa'r Prif Weinidog yn y bôn. Mae'n atebol i mi yn gyfan gwbl. Bydd ganddi lawer o wahanol swyddogaethau, er enghraifft, cydlynu'r rhaglen ddeddfwriaethol, cydlynu agenda'r Cabinet a hefyd nodi materion y mae angen ymdrin â hwy yn gynnar ar sail traws-Lywodraethol. Does dim dirgelwch ynghylch hynny; dyna fydd yn ei wneud. O ran plant, rwyf wedi neilltuo portffolios yn ôl yr hyn sy'n gweddu orau yn fy marn i, ond, yn y pen draw, nid yw Gweinidogion y Cabinet ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn byw ac yn bodoli mewn seilos. Mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y Llywodraeth drwy'r amser a dyna pam, er enghraifft, y bydd mater fel cyllid myfyrwyr yn benderfyniad a wneir gan y Cabinet. Wrth gwrs, mae Gweinidogion portffolio sy'n gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd, ond mae penderfyniadau pwysig sydd angen cyfraniad y Cabinet cyfan. Dyna sut y mae wedi bod erioed a dyna sut y bydd yn y dyfodol. O ran Alun Davies, wel, Alun, mae'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol yn y gorffennol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd ef yn Weinidog rhagorol ac yn rhywun a fydd yn dod â llawer o arbenigedd i'r Llywodraeth, fel y bydd pob Gweinidog. Mae pob Gweinidog wedi derbyn copi o'r cod gweinidogol ac, wrth gwrs, bydd yn ofynnol i Weinidogion ddangos i mi eu bod wedi ei ddarllen, ac mae hynny'n wir am yr holl Weinidogion. Rwy'n falch o gael yr amrywiaeth o arbenigedd sydd ar gael i mi.
Like Andrew R.T. Davies and Leanne Wood, I congratulate all those who have been appointed to their offices in this administration, in particular Ken Skates, who informed me the other day that I bought him a drink in the House of Commons 20 years ago. I now look forward to toasting his success at his expense when he returns the favour. [Laughter.] The First Minister said in his statement that this will be an open, inclusive and transparent administration. I regret to say in relation to these consultative committees that it doesn't look quite that way on this side of the circle in fact because these committees will be closed to us. They will exclude us, and the method by which they will take decisions and indeed perhaps the decisions they come to will be exceedingly opaque. I think it's rather unfortunate that a particular segment of Members of this house seem to be excluded now from the process of policy development to the advantage of one other minority parties. I think that, for good government of Wales, it would be to everyone's advantage if both the Conservatives and UKIP Members in their different ways could be included in these behind-the-scenes negotiations. We will no doubt disagree on many issues, but there are many domestic issues within Wales on which we can find agreement and common cause between parties in different parts of the house, and I offer my own party's word that we will play a constructive role in this Chamber. I should secondly like to congratulate Kirsty Williams on her appointment as education Secretary. I'm sure she will do an extremely good job. She's clearly a very, very capable person. I know that she has taken a great deal of interest in education and made contributions to debates in this Chamber over many years, but this does leave us with a slight democratic problem because, a few weeks ago, she was elected as a Lib Dem AM for Brecon and Radnor and 92 per cent of her constituents voted against the Labour Party, and yet the First Minister confirmed, in answer to a question earlier on, that Kirsty Williams would be bound by collective responsibility and therefore, in effect, has become a Labour AM in this Chamber. When my honourable friend, Mark Reckless defected from the Conservative Party to UKIP, he sought the endorsement of his electors in Rochester in a by-election and I believe that is the honourable course of action. I wonder whether the First Minister agrees that that would be appropriate for the constituency of Brecon and Radnor.
Fel Andrew R.T. Davies a Leanne Wood, rwyf yn llongyfarch pawb sydd wedi eu penodi i'w swyddi yn y weinyddiaeth hon, yn enwedig Ken Skates, a ddywedodd wrthyf y diwrnod o'r blaen fy mod wedi prynu diod iddo yn Nhŷ'r Cyffredin 20 mlynedd yn ôl. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at gynnig llwncdestun ar ei lwyddiant ac yntau'n mynd i'w boced y tro hwn wrth iddo dalu'n ôl. [Chwerthin.] Dywedodd y Prif Weinidog yn ei ddatganiad y bydd y weinyddiaeth hon yn agored, yn gynhwysol ac yn dryloyw. Mae'n ddrwg gennyf ddweud o ran y pwyllgorau ymgynghorol hyn nad yw'n edrych felly o'r ochr yma i'r cylch mewn gwirionedd, gan na fydd y pwyllgorau hyn ar agor i ni. Byddant yn ein gwahardd, a bydd y modd y byddant yn gwneud penderfyniadau ac yn wir, o bosib y penderfyniadau y byddant yn eu gwneud, yn hynod o anrhyloyw. Rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus ei bod yn ymddangos y bydd carfan benodol o Aelodau'r tŷ hwn yn cael eu gwahardd bellach o'r broses o ddatblygu polisi er budd un o'r pleidiau lleiafrifol eraill. Rwy'n credu, er mwyn cael llywodraeth dda yng Nghymru, y byddai o fantais i bawb pe gallai Aelodau'r Ceidwadwyr ac Aelodau UKIP yn eu ffyrdd gwahanol gael eu cynnwys yn y trafodaethau y tu ôl i'r llenni. Byddwn yn ddiau yn anghytuno ar lawer o faterion, ond mae llawer o faterion domestig yng Nghymru y gallwn ddod i gytundeb yn eu cylch a dod o hyd i farn gyffredin rhwng y partïon mewn gwahanol rannau o'r tŷ, ac rwyf yn addo ar ran fy mhlaid fy hun y byddwn yn chwarae rhan adeiladol yn y Siambr hon. Yn ail, hoffwn longyfarch Kirsty Williams ar ei phenodiad i'r swydd Ysgrifennydd addysg. Rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud gwaith arbennig o dda. Mae hi'n amlwg yn unigolyn galluog iawn, iawn. Gwn ei bod wedi cymryd llawer iawn o ddiddordeb mewn addysg a'i bod wedi cyfrannu at drafodaethau yn y Siambr hon dros lawer o flynyddoedd, ond mae hyn yn cyflwyno problem ddemocrataidd fechan i ni oherwydd, ychydig wythnosau yn ôl, cafodd ei hethol yn AC Democratiaid Rhyddfrydol Brycheiniog a Maesyfed a phleidleisiodd 92 y cant o'i hetholwyr yn erbyn y Blaid Lafur, ac eto, cadarnhaodd y Prif Weinidog, wrth ateb cwestiwn yn gynharach, y byddai Kirsty Williams yn rhwymedig i gydgyfrifoldeb, ac felly, i bob pwrpas, wedi dod yn AC Llafur yn y Siambr hon. Pan adawodd fy nghyfaill anrhydeddus, Mark Reckless y Blaid Geidwadol i ymuno ag UKIP, gofynnodd am gefnogaeth ei etholwyr yn Rochester mewn is-etholiad ac rwy'n credu mai dyna fuddai'r peth anrhydeddus i'w wneud. Tybed a fydd y Prif Weinidog yn cytuno y byddai hynny'n briodol ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.
First of all, I think the Member will be surprised at the amount of transparency that exists in this place compared to Westminster [Laughter.] He will certainly become aware of the freedom of information requests that we receive as Government and, indeed, the transparency under which Members operate in this place and have done for many, many years. There's no secret in terms of what has been agreed; we have published common priorities between Welsh Labour and the Welsh Liberal Democrats, and the nature of the agreement between Welsh Labour and Plaid Cymru is there for all to see. It is not a secret agreement; it has been published and people can see it for what it is: a way of ensuring that there is a working relationship - not agreement, we know that; we know that there will be areas of disagreement - but a working framework that can be used for the future. I can assure the leader of UKIP that Kirsty Williams is not a Welsh Labour AM; she is very much a Liberal Democrat AM. If we took the logic of his argument to its full conclusion, then, every single Conservative and Liberal Democrat MP would've resigned in 2010 when the coalition was set up at Westminster. Clearly, this is an agreement that we have in place in order to take Wales forward, in order to provide stability and in order, of course, to provide a better and brighter future for our people. We have done that through the identification of common priorities with the Welsh Liberal Democrats and we have done that through the compact that we have reached with Plaid Cymru. That's the way politics need to be done in Wales in the future. I've said this before and I'll say it again: there is no point being tribal for tribalism's sake. That's not the way the public are, and so it's hugely important - [Interruption.] Well, the Conservatives have fallen straight into the trap set for them there, but by me saying that there shouldn't be tribalism for tribalism's sake, that has exactly demonstrated that that's exactly what they are. We will continue to be transparent and we will continue to be open. Of course there will be disagreements within this Chamber - that's the nature of democracy. But I think it is incumbent on us as a Government to work and reach out with other parties in order to deliver common priorities and in order to ensure that we can deliver the best outcome for our people, and that is the spirit in which we approach the discussions we had both with Kirsty Williams and the Liberal Democrats and also, of course, with Plaid Cymru.
Yn gyntaf oll, rwyf yn credu y bydd yr Aelod yn synnu at faint o dryloywder sy'n bodoli yn y lle hwn o'i gymharu â San Steffan [Chwerthin.] Bydd ef yn sicr yn dod yn ymwybodol o'r ceisiadau rhyddid gwybodaeth yr ydym yn eu derbyn fel Llywodraeth ac yn wir, y tryloywder y mae Aelodau yn gweithredu yn unol ag ef yn y lle hwn ac y maent wedi ei wneud ers blynyddoedd lawer. Nid oes cyfrinach ynglŷn â'r hyn y cytunwyd arno; rydym wedi cyhoeddi blaenoriaethau cyffredin rhwng Llafur Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac mae natur y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru yno i bawb ei gweld. Nid yw'n gytundeb cyfrinachol; mae wedi ei gyhoeddi a gall pobl ei weld yn union beth ydyw: ffordd o sicrhau y bydd perthynas waith - nid cytundeb; rydym yn gwybod hynny; gwyddom y bydd meysydd y byddwn yn anghytuno arnynt - ond fframwaith gwaith y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y dyfodol. Gallaf sicrhau arweinydd UKIP nad yw Kirsty Williams yn AC Llafur Cymru; mae hi yn sicr yn Ddemocrat Rhyddfrydol. Pe byddem yn cymryd rhesymeg ei ddadl i'w chasgliad llawn, byddai pob un AS y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymddiswyddo yn 2010 pan sefydlwyd y glymblaid yn San Steffan. Yn amlwg, mae hwn yn gytundeb sydd gennym ar waith er mwyn symud Cymru ymlaen, er mwyn darparu sefydlogrwydd ac wrth gwrs, er mwyn rhoi dyfodol gwell a mwy disglair i'n pobl. Rydym wedi gwneud hynny drwy nodi blaenoriaethau cyffredin gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny drwy'r compact yr ydym wedi ei gyrraedd â Phlaid Cymru. Dyna'r ffordd y dylid cynnal gwleidyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Rwyf wedi dweud hyn o'r blaen a byddaf yn ei ddweud eto: nid oes diben glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth. Nid felly y mae'r cyhoedd yn meddwl, ac mae'n hynod BWYSIG - [Torri ar draws.] Wel, mae'r Ceidwadwyr wedi disgyn yn syth i'r trap a osodwyd ar eu cyfer yn y fan yna, ond wrth i mi ddweud na ddylid glynu wrth eich llwyth dim ond er mwyn glynu wrth eich llwyth, mae hynny wedi dangos mai dyna'n union yr hyn ydynt. Byddwn yn parhau i fod yn dryloyw a byddwn yn parhau i fod yn agored. Wrth gwrs y bydd anghytuno o fewn y Siambr hon - dyna beth yw natur democratiaeth. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Llywodraeth i geisio cydweithio â phleidiau eraill er mwyn cyflawni blaenoriaethau cyffredin ac er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer ein pobl, a dyna'r ysbryd y trafodaethau a gawsom gyda Kirsty Williams a'r Democratiaid Rhyddfrydol a hefyd, wrth gwrs, â Phlaid Cymru.
First Minister, I hope I can extend somewhat less barbed good wishes to you and your Government. I think it's in all our interests that this Government works as effectively as possible, and I look forward to supporting much of what you do. There will be many differences and I shall be most vigorous in pursuing those. Can I especially welcome Kirsty Williams's appointment to the Cabinet? I think this is a really good development for Welsh politics. We need to stretch the model of how we do politics in this Chamber. I don't think many journalists were holding the front page to run a headline, 'Shock - Liberal Democrats join with Labour in an administration'. I've always found Kirsty's comments here thoughtful, relevant and clear, and, indeed, in the fourth Assembly, I think she had the role somewhat of inquisitor in chief - a role I hope you do now continue, albeit in the secrecy of the Cabinet proceedings, of course. I welcome the fact that the interests of children have been identified as a distinct ministerial responsibility and I look forward to working with Carl Sargeant in whatever way possible to raise issues of great concern to me, particularly about looked-after children. First Minister, this week we've seen disturbing evidence of discriminatory action being taken by the criminal justice system, albeit inadvertently often, against looked-after children, and I hope you and your colleagues will take careful note of the Prison Reform Trust's review. More positively, we heard last week that the Prime Minister has formed a Cabinet sub-committee on young people in care and it is charged with drawing up cross-departmental agreements. Can I recommend this approach or something analogous that is suitable to the Welsh Cabinet is taken, because the inter-linkages - . It's inevitably going to be the case that education, health and other areas of social care will have a vital interest for looked-after children, and you can't just put all that into one ministerial responsibility. But, effective working multiplies the outcomes we can achieve rather than just adding them together. This is something that we really need to do for looked-after children. In this the fifth session of the National Assembly, let's really show outstanding best practice for the advancement of looked-after children.
Brif Weinidog, rwyf yn gobeithio y caf gyflwyno dymuniadau da sydd ychydig yn llai pigog i chi a'ch Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod er budd pob un ohonom bod y Llywodraeth hon yn gweithio mor effeithiol â phosibl, ac edrychaf ymlaen at gefnogi llawer o'r hyn yr ydych yn ei wneud. Bydd nifer o wahaniaethau a byddaf yn egnïol iawn wrth fynd i'r afael â'r rheiny. A gaf i groesawu yn benodol, penodiad Kirsty Williams i'r Cabinet? Rwy'n credu bod hwn yn ddatblygiad da iawn i wleidyddiaeth Cymru. Mae angen i ni ehangu'r model o sut yr ydym yn cynnal gwleidyddiaeth yn y Siambr hon. Nid wyf yn credu bod llawer o newyddiadurwyr yn cadw'r dudalen flaen yn wag er mwyn cynnwys y pennawd, 'Sioc - y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymuno â Llafur mewn gweinyddiaeth'. Rwyf bob amser wedi ystyried sylwadau Kirsty yma yn rhai meddylgar, perthnasol a chlir, ac, yn wir, yn y pedwerydd Cynulliad, credaf ei bod wedi cyflawni swyddogaeth y prif chwilyswr i raddau - swyddogaeth yr wyf yn gobeithio y byddwch yn parhau i'w chyflawni, er y bydd hynny yng nghyfrinachedd trafodion y Cabinet, wrth gwrs. Croesawaf y ffaith fod buddiannau plant wedi eu nodi fel cyfrifoldeb gweinidogol penodol ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Carl Sargeant ym mha ffordd bynnag bosibl i godi materion sy'n peri pryder mawr i mi, yn enwedig ynglŷn â phlant sy'n derbyn gofal. Brif Weinidog, yr wythnos hon yr ydym wedi gweld tystiolaeth sy'n peri pryder o weithredu gwahaniaethol gan y system cyfiawnder troseddol, er yn aml heb fod bwriad o wneud hynny, yn erbyn plant sy'n derbyn gofal, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi a'ch cydweithwyr yn rhoi sylw gofalus i adolygiad yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai. Yn fwy cadarnhaol, clywsom yr wythnos diwethaf fod y Prif Weinidog wedi ffurfio is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer pobl ifanc sy'n derbyn gofal a'i swyddogaeth fydd llunio cytundebau traws-adrannol. A gaf i argymell bod y dull hwn neu rywbeth cyfatebol sy'n addas ar gyfer Cabinet Cymru yn cael ei ddilyn, oherwydd bod y rhyng-gysylltiadau - . Mae'n anochel y bydd addysg, iechyd a meysydd gofal cymdeithasol eraill yn mynd i fod yn hanfodol bwysig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac ni allwch gynnwys popeth o dan un cyfrifoldeb gweinidogol. Ond, mae gwaith effeithiol yn lluosi'r canlyniadau yn hytrach na dim ond eu hychwanegu at ei gilydd. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Yn y pumed sesiwn hwn o'r Cynulliad Cenedlaethol, gadewch i ni ddangos o ddifrif arfer gorau rhagorol er mwyn gwneud cynnydd dros blant sy'n derbyn gofal.
Can I very much thank the Member for his comments? He will know that I've taken an interest in this issue for some years given the underperformance that we know of looked-after children in the education system. The difficulty is, of course, that looked-after children need support from many areas, whether it's through social services, whether it's through the education system, whether it's through health. Looked-after children sit within the portfolio of Carl Sargeant. That's done deliberately so that there can be a holistic approach taken to improving outcomes for them. We know, anecdotally at least, that it is said that it is more likely for a looked-after child to end up in prison than in university. That's something we cannot tolerate as a society. It's something that I certainly have taken a personal interest in. It's one of the reasons why we have a children's Minister who will then have responsibility across the board for improving outcomes for looked-after children.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei sylwadau? Bydd yn gwybod fy mod i wedi cymryd diddordeb yn y mater hwn ers rhai blynyddoedd o ystyried y tanberfformiad y gwyddom amdano o ran plant sy'n derbyn gofal o fewn y system addysg. Yr anhawster yw, wrth gwrs, fod plant sy'n derbyn gofal angen sawl gwahanol fath o gefnogaeth, boed hynny drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, trwy'r system addysg, neu trwy'r gwasanaethau iechyd. Mae plant sy'n derbyn gofal yn rhan o bortffolio Carl Sargeant. Gwnaed hynny yn fwriadol fel y gellir dilyn ymagwedd gyfannol er mwyn gwella canlyniadau ar eu cyfer. Gwyddom, yn anecdotaidd o leiaf, ei bod yn fwy tebygol i blentyn sy'n derbyn gofal fynd i'r carchar yn hytrach nag i brifysgol. Nid yw hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei oddef fel cymdeithas. Mae'n rhywbeth yr wyf i yn sicr wedi cymryd diddordeb personol ynddo. Dyna un o'r rhesymau pam y mae gennym Weinidog Plant a fydd yn llwyr gyfrifol am wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
First of all, First Minister, can I thank you for your earlier response to Andrew R.T. Davies regarding the committees that the Government will be holding jointly with Plaid Cymru? I have to express my concerns that something that is important as the constitution, which includes, of course, everybody in this Assembly, is a matter for a committee that only involves two parties in this place. But, my main question today is this: can you explain who is going to be taking primary responsibility for autism policy? Autism affects adults and children. It affects them both in different ways at different times in their lives and to differing degrees. Those differences are one of the reasons why I have my concerns that an autism Act and its ambitions will not be adequately reflected in an additional learning needs Bill. Because it affects social services, health, environment, communities even, I wonder if you can make it plain to us all who exactly will be taking primary responsibility for all autism policy, perhaps in the same way that primary responsibility has been given to one Secretary for children.
Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich ymateb cynharach i Andrew R. T. Davies ynglŷn â'r pwyllgorau y bydd y Llywodraeth yn eu cynnal ar y cyd â Phlaid Cymru? Mae'n rhaid i mi fynegi fy mhryderon fod rhywbeth sydd mor bwysig â'r cyfansoddiad, sy'n cynnwys, wrth gwrs, pawb yn y Cynulliad hwn, yn fater i bwyllgor sy'n cynnwys dwy blaid yn unig. Ond, fy mhrif gwestiwn heddiw yw hwn: a allwch chi esbonio pwy sy'n mynd i fod yn bennaf gyfrifol am bolisi awtistiaeth? Mae awtistiaeth yn effeithio ar oedolion a phlant. Mae'n effeithio ar y ddau ohonynt mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau yn eu bywydau ac i raddau gwahanol. Y gwahaniaethau hynny yw un o'r rhesymau pam yr wyf yn pryderu na fydd Deddf awtistiaeth a'i huchelgeisiau yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol mewn Bil anghenion dysgu ychwanegol. Gan ei fod yn effeithio ar wasanaethau cymdeithasol, iechyd, yr amgylchedd, a chymunedau hyd yn oed, tybed a allwch chi egluro i bawb ohonom pwy yn union fydd yn bennaf gyfrifol am yr holl bolisi awtistiaeth, efallai yn yr un ffordd ag y mae'r prif gyfrifoldeb ar gyfer plant wedi ei roi i un Ysgrifennydd dros blant.
Autism sits in two portfolios. In terms of provision, that sits within health and well-being. In terms of education provision, that would sit within education itself. I hear what she says: one of the issues that we have examined is whether the ALN Bill could be adapted to include provision for autism - I see no reason why that cannot be done - rather than there being a separate Bill and that taking more time. We are open to discussions on that, I have to say. So, in terms of provision, she is right to say that it overlaps a number of areas: adults and children, education, and health and well-being. But, as ever, I expect Ministers to work together to be able to deliver a cohesive service for those who are either carers of those with autism or those who are living with autism in order to take us forward. With the ALN Bill, if there is a significant element of dealing with autism within that Bill, then that would sit within the portfolio of Alun Davies, or within his responsibilities. But let's see how that develops in terms of whether it's possible to include provision for autism within a Bill that, at its genesis, was a Bill about additional learning needs. There may be a way, of course, to deal with both issues and then, of course, avoid the need for a separate Bill that might take more time.
Mae Awtistiaeth yn bodoli mewn dau bortffolio. O ran darpariaeth, mae hynny'n rhan o iechyd a lles. O ran darpariaeth addysg, byddai hynny'n rhan o addysg ei hun. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae hi'n ei ddweud: un o'r materion yr ydym wedi ei archwilio yw pa un a ellid addasu'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol i gynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth - ni welaf unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny - yn hytrach na bod Bil ar wahân a bod hynny'n cymryd mwy o amser. Rydym yn agored i drafodaethau ynglŷn â hynny, mae'n rhaid i mi ddweud. Felly, o ran darpariaeth, mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod gorgyffwrdd yn digwydd â nifer o feysydd eraill: oedolion a phlant, addysg, ac iechyd a lles. Ond, fel bob amser, rwyf yn disgwyl i Weinidogion weithio gyda'i gilydd i allu darparu gwasanaeth cydlynol ar gyfer y rhai sydd naill ai'n gofalu am y rhai sydd ag awtistiaeth neu'r rhai sy'n byw gydag awtistiaeth, er mwyn ein symud ymlaen. O ran y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, os oes elfen sylweddol yn ymdrin ag awtistiaeth yn y Bil hwnnw, yna byddai hynny'n rhan o bortffolio Alun Davies, neu yn rhan o'i gyfrifoldebau. Ond gadewch i ni weld sut y bydd hynny yn datblygu o ran pa un a yw'n bosibl cynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth mewn Bil, sydd yn y bôn, yn Fil yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd ffordd, wrth gwrs, o ymdrin â'r ddau fater a fydd wedyn, wrth gwrs, yn osgoi'r angen am Fil ar wahân a allai gymryd mwy o amser.
The next item is the motion to appoint members of the Business Committee, and I call Jane Hutt to formally move the motion.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i benodi aelodau i'r Pwyllgor Busnes. Rwy'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
The proposal is we agree the motion to appoint members to the Business Committee. Does any Member object? I see that there are no objections, and therefore the motion is agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i benodi'r aelodau i'r Pwyllgor Busnes? A oes unrhyw wrthwynebiad? Na, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
The motion without notice to bring forward First Minister's questions in the next Plenary is the next item, and I intend to call that meeting at 1.30 p.m. on Wednesday 8 June. I call on Jane Hutt to formally move the motion.
Y cynnig heb rybudd yw'r eitem nesaf, i gyflwyno cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn nesaf. Rwy'n bwriadu ei alw am 1.30 p.m. ddydd Mercher 8 Mehefin. Rwy'n galw ar Jane Hutt i wneud y cynnig yn ffurfiol.
The proposal is that we agree the motion. Does any Member object? The motion is therefore agreed in accordance with Standing Order 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Presiding Officer, Members of the National Assembly for Wales, thank you for your warm welcome and good wishes. I am delighted to be here today on the occasion of the opening of the fifth National Assembly for Wales, and I congratulate you on your election as Members of the Assembly. I have continued to follow the Assembly's progress with close interest and to note the remarkable record of achievement over the first four terms. Though a relatively young parliamentary institution, you have established a reputation as a strong, accessible and forward-looking legislature, serving all the diverse communities of Wales. The Assembly can be proud of the way it has engaged with a broad audience across Wales and beyond to create a better understanding of the important work that is undertaken here, and I am sure that you will continue to show innovation and leadership in the way that you communicate with all those you serve and to involve them in your work. When I was here in 2011, I noted that you would be passing Assembly Acts for the first time. So, I am pleased, now, to see the Assembly serving the people of Wales as a modern legislature with full law-making powers. It is an achievement in which all who care about Wales can take pride. The volume and complexity of your legislative responsibilities will increase still further during this fifth Assembly, and you will also have the fiscal responsibilities flowing from the Wales Act 2014, including tax-raising powers for the first time. Your responsibility is great and the expectations are high, but I have no doubt you will continue to succeed as you discharge these new duties. Presiding Officer, Assembly Members, this Fifth Assembly marks a further significant development in the history of devolution in Wales. I wish you every success as you prepare to meet the challenges of these constitutional changes and to help realise the potential of the Assembly for future generations.
Lywydd, Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, diolch i chi am eich croeso cynnes a'ch dymuniadau da. Rwyf yn falch iawn o fod yma heddiw ar achlysur agor pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac rwyf yn eich llongyfarch ar gael eich ethol yn Aelodau'r Cynulliad. Rwyf wedi parhau i ddilyn cynnydd y Cynulliad â chryn ddiddordeb gan nodi hanes rhyfeddol o gyflawni dros y pedwar tymor cyntaf. Er mai sefydliad seneddol cymharol ifanc yw hwn, rydych wedi sefydlu enw da fel deddfwrfa gref, hygyrch a blaengar, sy'n gwasanaethu holl gymunedau amrywiol Cymru. Gall y Cynulliad fod yn falch o'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â chynulleidfa eang ledled Cymru a thu hwnt i greu gwell dealltwriaeth o'r gwaith pwysig a wneir yma, ac rwyf yn siŵr y byddwch yn parhau i ddangos arloesedd ac arweinyddiaeth yn y ffordd yr ydych yn cyfathrebu â phawb yr ydych yn eu gwasanaethu ac yn eu cynnwys yn eich gwaith. Pan oeddwn i yma yn 2011, nodais y byddech yn pasio Deddfau'r Cynulliad am y tro cyntaf. Felly, rwyf yn falch, erbyn hyn, o weld y Cynulliad yn gwasanaethu pobl Cymru fel deddfwrfa fodern a chanddi bwerau deddfu llawn. Mae'n llwyddiant y gall pawb y mae Cymru yn agos i'w calon fod yn falch ohono. Bydd maint a chymhlethdod eich cyfrifoldebau deddfwriaethol yn cynyddu ymhellach yn ystod y pumed Cynulliad hwn, a bydd gennych hefyd y cyfrifoldebau cyllidol sy'n deillio o Ddeddf Cymru 2014, gan gynnwys pwerau trethu am y tro cyntaf. Mae eich cyfrifoldeb yn fawr ac mae'r disgwyliadau yn uchel, ond nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwch yn parhau i lwyddo wrth i chi gyflawni'r dyletswyddau newydd hyn. Lywydd, Aelodau'r Cynulliad, mae'r Pumed Cynulliad hwn yn nodi datblygiad pwysig arall yn hanes datganoli yng Nghymru. Dymunaf bob llwyddiant i chi wrth i chi baratoi i ateb heriau'r newidiadau cyfansoddiadol hyn ac i helpu i wireddu potensial y Cynulliad ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Item 1 is questions to the First Minister, and the first question, Nick Ramsay.
Eitem 1 yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay.
Yes. Over the next few weeks and months, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government will be meeting local government leaders and other stakeholders to listen to their views, before considering the long-term approach to local government reform, and a statement will, of course, be made in due course.
Gwnaf. Dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i wrando ar eu barn, cyn ystyried yr ymagwedd hirdymor tuag at ddiwygio llywodraeth leol, a chaiff datganiad ei wneud maes o law.
That's a very encouraging answer, First Minister. You're an astute man, and it won't have escaped your notice that I've been opposing the plans to abolish the county of Monmouthshire as part of the local government reorganisation proposed by the last Welsh Government. Now that the Minister responsible for these plans has moved on to greater things, isn't now a good time to get back to the drawing board and come up with a plan that we, councillors, and the public can all support? I'm more than happy to meet you for a pint sometime to discuss this. [Laughter.]
Dyna ateb calonogol iawn, Brif Weinidog. Rydych yn ddyn craff ac rydych yn siŵr o fod wedi sylwi fy mod wedi bod yn gwrthwynebu'r cynlluniau i ddiddymu Sir Fynwy fel rhan o'r ad-drefnu llywodraeth leol a argymhellwyd gan Lywodraeth ddiwethaf Cymru. Nawr bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am y cynlluniau hyn wedi symud ymlaen at bethau gwell, onid yw'n adeg dda i fynd yn ôl i'r cychwyn a meddwl am gynllun y gallwn ni, gynghorwyr, a'r cyhoedd ei gefnogi? Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â chi am beint rywbryd i drafod hyn. [Chwerthin.]
Well, I think these things are best kept on a formal basis, but I thank the Member for that invitation, nevertheless. Well, yes, those discussions will now begin. There seems to be general agreement that there is a need to move forward with reform of local government, but, of course, there are varying different views as to what form that should take. And, of course, the Cabinet Secretary will have discussions on this over the course of the next few weeks and months.
Wel, rwy'n meddwl mai gwell yw cadw'r pethau hyn yn ffurfiol, ond diolch i'r Aelod am y gwahoddiad, er hynny. Wel, ie, bydd y trafodaethau hynny nawr yn dechrau. Mae'n ymddangos bod cytundeb cyffredinol fod angen symud ymlaen â diwygio llywodraeth leol ond ceir safbwyntiau gwahanol ynglŷn â pha fodd y dylid gwneud hynny. A bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal trafodaethau ar hyn dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf.
First Minister, the Auditor General for Wales, in his report, 'A Picture of Public Services 2015', last year, noted that, since the UK Government set its austerity programme in the 2010 spending review, Wales has had to manage a £1.2 million - sorry, I'll say that again, a £1.2 billion funding cut. Despite such savage Tory cuts, local authorities and Welsh councils have continued - [Interruption.] Llywydd, if I may, they have continued to stand up for the communities of Wales. Will the First Minister outline his strength of conviction and commitment to the Welsh Government's priorities for supporting the effective and efficient local government delivery of public services?
Brif Weinidog, nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015', y llynedd, fod Cymru, ers i Lywodraeth y DU osod ei rhaglen galedi yn adolygiad o wariant 2010, wedi gorfod rheoli toriad o £1.2 miliwn - mae'n ddrwg gennyf, dywedaf hynny eto, toriad o £1.2 biliwn yn y cyllid. Er gwaethaf toriadau Torïaidd llym o'r fath, mae awdurdodau lleol a chynghorau Cymru wedi parhau - [Torri ar draws.] Lywydd, os caf, maent wedi parhau i sefyll dros gymunedau Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cryfder ei argyhoeddiad a'i ymrwymiad i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi darpariaeth effeithiol ac effeithlon llywodraeth leol o wasanaethau cyhoeddus?
Yes, I will. I know that local government has had enormous challenges in dealing with the cuts that have been imposed on us from Westminster, and they have sought to serve their communities well. There are, of course, areas where there can be greater collaboration, in my view, and areas where there can be greater strengthening of consistency across local government in Wales, and I know that the Secretary is keen to lead on this, in discussions with other parties and, indeed, with local government leaders over the course of the next few months.
Gwnaf, fe wnaf hynny. Gwn fod llywodraeth leol wedi wynebu heriau enfawr wrth ddelio â'r toriadau a orfodwyd arnom gan San Steffan, ac maent wedi ceisio gwasanaethu eu cymunedau'n dda. Wrth gwrs, mae yna feysydd lle gellir cael mwy o gydweithredu, yn fy marn i, a meysydd lle gellir cryfhau cysondeb yn well ar draws llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod yr Ysgrifennydd yn awyddus i arwain ar hyn, mewn trafodaethau gyda phleidiau eraill ac yn wir, gydag arweinwyr llywodraeth leol dros y misoedd nesaf.
With the opportunity of local government reform, will the First Minister urgently take steps to ensure that a new regional structure is put in place, to allow flawed local development plans, with unnecessary use of greenfield sites, to be amended to avoid developer-led urban sprawl? Because, if you recall, on 24 April 2012, First Minister, you said that it was completely untrue that you had announced plans to build on Cardiff's greenfield sites. You called it a blatant lie, only to be embarrassed by your own party which then published plans to build on Cardiff's greenfield sites. You misled us all. Will you now redeem yourself in the eyes of the public and implement yet another Plaid Cymru policy?
Gyda'r cyfle i ddiwygio llywodraeth leol, a fydd y Prif Weinidog yn cymryd camau ar frys i sicrhau y rhoddir strwythur rhanbarthol newydd ar waith, er mwyn caniatáu i gynlluniau datblygu lleol diffygiol, gyda defnydd diangen o safleoedd maes glas, gael eu newid er mwyn osgoi blerdwf trefol wedi'i arwain gan ddatblygwyr? Oherwydd, os cofiwch, ar 24 Ebrill 2012, Brif Weinidog, fe ddywedoch mai anwiredd llwyr oedd eich bod wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe'i galwoch yn gelwydd pur, ond codwyd embaras arnoch gan eich plaid eich hun, a gyhoeddodd gynlluniau wedyn i adeiladu ar safleoedd maes glas Caerdydd. Fe wnaethoch ein camarwain ni i gyd. A wnewch chi yn awr wneud iawn am eich cam yn llygaid y cyhoedd a gweithredu polisi Plaid Cymru arall eto?
Well, he has had this tussle before. I've made no such announcement ever, as a Minister or, indeed, as leader of any party, and he knows that full well. He raises an important point. It's a point that's raised, indeed, by my colleague, Hefin David, as well, the Member for Caerphilly, and that is that it's not realistic for local development plans to be developed in isolation of each other. There is huge sense in having a strategic development framework across, particularly, the south-east of Wales, where there is great pressure. Cardiff is a city that's growing very strongly and we should welcome that. But, nevertheless, we do need to ensure that there is a proper regional framework in place when it comes to planning for the growth of the various parts of Wales over the course of the next few years.
Wel, mae wedi cael y ffrae hon o'r blaen. Nid wyf wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o'r fath erioed, fel Gweinidog, nac yn wir fel arweinydd unrhyw blaid, ac mae'n gwybod hynny'n iawn. Mae'n crybwyll pwynt pwysig. Mae'n bwynt a godwyd, yn wir, gan fy nghyd-Aelod, Hefin David hefyd, yr Aelod dros Gaerffili, sef nad yw datblygu cynlluniau datblygu lleol ar wahân i'w gilydd yn realistig. Mae synnwyr helaeth mewn cael fframwaith datblygu strategol, yn enwedig ar draws de-ddwyrain Cymru lle mae pwysau mawr. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu'n gryf iawn a dylem groesawu hynny. Serch hynny, mae angen i ni sicrhau bod fframwaith rhanbarthol priodol ar waith er mwyn cynllunio ar gyfer twf y gwahanol rannau o Gymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Yes. The Swansea bay city region board continues to lead regional alignment and collaboration to deliver shared aspirations for jobs and growth.
Gwnaf. Mae bwrdd dinas-ranbarth bae Abertawe yn parhau i arwain ar alinio a chydweithio rhanbarthol er mwyn cyflawni dyheadau a rennir ar gyfer swyddi a thwf.
May I thank the First Minister for that response? I think that we both agree that Swansea bay city region has a clear direction of travel. I believe in the importance of city regions as economic drivers. Cardiff has had agreed funding for its city deal. Can the First Minister provide an update on funding for the Swansea city region, including the city deal?
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb hwnnw. Rwy'n meddwl ein bod yn cytuno bod gan ddinas-ranbarth bae Abertawe gyfeiriad teithio clir. Rwy'n credu ym mhwysigrwydd dinas-ranbarthau fel sbardunau economaidd. Mae Caerdydd wedi derbyn cyllid y cytunwyd arno ar gyfer ei bargen ddinesig. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chyllid ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe, gan gynnwys y fargen ddinesig?
Yes, of course. I know that Sir Terry Matthews and the board have developed an initial proposal for a city deal, which has been submitted to both us and the UK Government. It's seeking a sum of around £500 million over 20 years, and, indeed, the proposal outlines the transformational power of digital connectivity to accelerate growth in the region, and across Wales and, indeed, the rest of the UK. So, that submission has been made. We now, of course, wish to move forward with a city deal along the lines of that that's been agreed for the capital region.
Gallaf, wrth gwrs. Gwn fod Syr Terry Matthews a'r bwrdd wedi datblygu cynnig cychwynnol ar gyfer bargen ddinesig, sydd wedi'i chyflwyno i ni a Llywodraeth y DU. Mae'n ceisio swm o tua £500 miliwn dros 20 mlynedd, ac yn wir, mae'r cynnig yn amlinellu grym trawsnewidiol cysylltedd digidol i gyflymu twf yn y rhanbarth, a ledled Cymru ac yn wir, gweddill y DU. Felly, mae'r cyflwyniad hwnnw wedi'i wneud. Rydym yn awr, wrth gwrs, yn dymuno symud ymlaen gyda bargen ddinesig sy'n debyg i'r un y cytunwyd arni ar gyfer y prifddinas-ranbarth.
You will be aware, naturally, First Minister, of the exciting development of the new campus in Swansea bay, at Swansea University, and you will be aware of the huge investment made in that new campus and that the vast majority of that has come from European funding. So, would you agree with me that such an investment would be impossible if Wales were outwith the European Union?
Byddwch chi'n ymwybodol, yn naturiol, Brif Weinidog, o ddatblygiad cyffrous y campws newydd ym mae Abertawe - Prifysgol Abertawe, felly. A, hefyd, byddwch chi'n ymwybodol o'r buddsoddiad anferthol sydd wedi bod yn y campws newydd yna, a'r rhan helaeth o hwnnw'n dod o arian Ewrop. Felly, a fyddech chi'n cytuno efo fi y byddai'r fath fuddsoddiad yn amhosib petai Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?
That's quite right, and it's true to say that without having that funding available to us, that campus would not exist.
Mae hynny'n iawn, ac mae'n wir i ddweud, heb i'r arian yna fod ar gael, na fyddai'r campws yna nawr.
The Swansea bay skills partnership is a work-based learning consortium that has been identified mainly as 'merely adequate' by Estyn. With such hopes for the economic potential for the Swansea bay city region, what is your Government doing to ensure that those charged with converting talent into desirable skills actually fulfil those aims?
Mae partneriaeth sgiliau bae Abertawe yn gonsortiwm dysgu seiliedig ar waith sydd wedi'i alw'n bennaf yn ddigonol yn unig gan Estyn. Gyda'r fath obeithion am botensial economaidd dinas-ranbarth bae Abertawe, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol am drosi talent yn sgiliau dymunol yn cyflawni'r amcanion hynny mewn gwirionedd?
I believe that is happening. The city region board know full well that the key to attracting investment is making sure that skills are available so that that investment can take place. One of the questions I'm often asked by potential investors when I go abroad is, 'Do you have the skills that we need in order for us to prosper in your country?', and we are able to provide them with that reassurance. If we look, for example, at the Swansea University campus, which I know, as my friend, David Rees, will remind me, is in the Aberavon constituency, it is a significant investment in the future of Swansea bay - a hugely important campus and a sign that education and skills provision is taken very seriously in that part of Wales, as indeed it is across the entire nation.
Credaf fod hynny yn digwydd. Mae bwrdd y dinas-ranbarth yn gwybod yn iawn mai'r allwedd i ddenu buddsoddiad yw sicrhau bod sgiliau ar gael fel y gall y buddsoddiad hwnnw ddigwydd. Un o'r cwestiynau a ofynnir yn aml i mi gan fuddsoddwyr posibl pan fyddaf yn mynd dramor yw, 'A oes gennych y sgiliau sydd eu hangen arnom er mwyn i ni ffynnu yn eich gwlad?', ac rydym yn gallu rhoi'r sicrwydd hwnnw iddynt. Os edrychwn, er enghraifft, ar gampws Prifysgol Abertawe, y gwn ei fod, fel y bydd fy nghyfaill, David Rees, yn fy atgoffa, yn etholaeth Aberafan, mae'n fuddsoddiad sylweddol yn nyfodol bae Abertawe - campws hynod bwysig ac arwydd bod y rhan honno o Gymru, fel y genedl gyfan yn wir, yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch y ddarpariaeth addysg a sgiliau.
First Minister, for the city region to work most effectively requires greater collaboration amongst the local government partners. Your previous local government reorganisation proposals were at odds with the city region map. Will your new proposals for local government mergers take into account the need for Swansea and Neath Port Talbot to work closer together with Carmarthenshire and Pembrokeshire?
Brif Weinidog, er mwyn i'r dinas-ranbarth weithio yn y modd mwyaf effeithiol, mae gofyn am fwy o gydweithredu ymhlith y partneriaid llywodraeth leol. Roedd eich cynigion ad-drefnu llywodraeth leol blaenorol yn anghydnaws â map y dinas-ranbarth. A fydd eich cynigion newydd ar gyfer uno llywodraeth leol yn ystyried yr angen i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot gydweithio'n agosach â Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro?
Well, that would be needed in any event. The Swansea bay city region of course crosses boundaries. We know that political boundaries don't align themselves with economic boundaries. That's why the city deal in the capital region involves 10 local authorities, reflecting, of course, what is the economic region, and reflecting the need for local authorities to work together to deliver prosperity for all their citizens.
Wel, byddai angen hynny beth bynnag. Mae dinas-ranbarth bae Abertawe yn croesi ffiniau. Rydym yn gwybod nad yw ffiniau gwleidyddol yn cyd-fynd â ffiniau economaidd. Dyna pam y mae'r fargen ddinesig yn y prifddinas-ranbarth yn cynnwys 10 awdurdod lleol, gan adlewyrchu, wrth gwrs, y rhanbarth economaidd, a chan adlewyrchu'r angen i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd i gyflawni ffyniant ar gyfer eu holl ddinasyddion.
I now call on the party leaders to question the First Minister and, first of all, the leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies.
Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi'r Prif Weinidog ac, yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Thank you, Presiding Officer. First Minister, in the agreement that you reached to form the Lib-Lab coalition that we have as the Government here in Wales today, part of the Lib-Dem manifesto was taken into your programme of Government about reducing class sizes. The cost of that was some £42 million, or the estimation was £42 million. In your own manifesto, you said that the Labour Government, if elected, would be making available £100 million for education over the lifetime of the Assembly. Will this £42 million be additional money that will have to be found to be put into the education budget, or is it part of your overall commitment of £100 million?
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yn y cytundeb a gyrhaeddoch i ffurfio'r glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd gennym fel Llywodraeth yma yng Nghymru heddiw, cafodd rhan o faniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â lleihau maint dosbarthiadau ei chynnwys yn eich rhaglen lywodraethu. Cost hynny oedd tua £42 miliwn, neu £42 miliwn oedd yr amcangyfrif. Yn eich maniffesto eich hunain, fe ddywedoch y byddai'r Llywodraeth Lafur, pe câi ei hethol, yn darparu £100 miliwn i addysg dros oes y Cynulliad. A fydd y £42 miliwn hwn yn arian ychwanegol y bydd yn rhaid dod o hyd iddo er mwyn ei roi yn y gyllideb addysg, neu a yw'n rhan o'ch ymrwymiad cyfan o £100 miliwn?
We are proud to pledge the £100 million as a main pledge in our election manifesto. That money is earmarked for educational improvement. It's a matter now, of course, for the Government and for the Secretary to examine how the issue of class sizes can be taken forward.
Rydym yn falch o addo'r £100 miliwn fel prif addewid yn ein maniffesto etholiadol. Clustnodir yr arian ar gyfer gwella addysg. Mae'n fater yn awr, wrth gwrs, i'r Llywodraeth a'r Ysgrifennydd archwilio sut y gellir bwrw ymlaen ar fater maint dosbarthiadau.
I notice you didn't answer the question there, because I think it's important to understand: will you be making money available over and above your own manifesto's commitment to meet this new commitment that you've taken into your programme for government? It's a perfectly legitimate question, because I would hope that, before you agreed to this, you did put it through the civil service machine, as it were, and see what the liability would be, because £42 million is not a small sum of money. So, it's a simple answer: will there be an additional £42 million made available for the education budget to meet this commitment, or has it got to come out of your existing priorities that you've identified in your own budget?
Sylwaf nad ateboch y cwestiwn, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig deall hyn: a fyddwch yn darparu arian ychwanegol at ymrwymiad eich maniffesto i gyflawni'r ymrwymiad newydd hwn rydych wedi'i gynnwys yn eich rhaglen lywodraethu? Mae'n gwestiwn hollol deg, oherwydd byddwn yn gobeithio, cyn i chi gytuno i hyn, eich bod wedi'i roi drwy beiriant y gwasanaeth sifil, fel petai, a gweld beth fyddai'r ymrwymiad, oherwydd nid yw £42 miliwn yn swm bach o arian. Felly, mae'n ateb syml: a fydd £42 miliwn ychwanegol yn cael ei ddarparu i'r gyllideb addysg i gyflawni'r ymrwymiad hwn, neu a oes rhaid iddo ddod o'ch blaenoriaethau presennol a nodwyd gennych yn eich cyllideb eich hun?
No, the commitment can be met outside the £100 million pot.
Na, gellir cyflawni'r ymrwymiad y tu allan i'r pot o £100 miliwn.
So, there will be new money coming in to the education budget to meet this commitment. I think that's the point that you were making. But your education adviser, David Reynolds, has identified that it maybe isn't the best use of money to increase education attainment levels. But, if you are a school, a headteacher, and a governing body, to meet this requirement, would it mean that you will have to create additional classrooms, have new teachers, or will it mean just sub-dividing classes to meet the requirement that has been taken on board by your Government? I think it's important to understand exactly how this is going to be implemented, so that governors and headteachers know that (a) the money will be coming to meet the commitment, but, secondly, they will be able to accommodate it within the existing school estates they have. Or will you be making additional capital money available for any building work that might be required?
Felly, bydd arian newydd yn dod i'r gyllideb addysg i gyflawni'r ymrwymiad hwn. Rwy'n credu mai dyna'r pwynt roeddech yn ei wneud. Ond mae eich ymgynghorydd addysg, David Reynolds, wedi nodi efallai nad dyna'r defnydd gorau o arian i godi lefelau cyrhaeddiad addysg. Ond os ydych yn ysgol, yn bennaeth, ac yn gorff llywodraethol, er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, a fyddai'n golygu y bydd rhaid i chi greu ystafelloedd dosbarth ychwanegol, cael athrawon newydd, neu a fydd yn golygu isrannu dosbarthiadau'n unig i fodloni'r gofyniad sydd wedi'i dderbyn gan eich Llywodraeth? Credaf ei bod yn bwysig deall yn union sut y gweithredir hyn, fel bod llywodraethwyr a phenaethiaid yn gwybod (a) y bydd yr arian yn dod er mwyn cyflawni'r ymrwymiad, ond yn ail, y byddant yn gallu ei gyflawni o fewn yr ystadau ysgol presennol sydd ganddynt. Neu a fyddwch yn darparu arian cyfalaf ychwanegol ar gyfer unrhyw waith adeiladu y gallai fod ei angen?
These are issues that are being examined as we seek to move the policy forward. One of the things that we are proud of is the fact that we have built so many new schools across Wales, that we've refurbished so many schools across Wales and that the twenty-first century schools programme will continue. Increasingly across Wales we see more and more children, and more and more teachers, who are being taught in facilities that are appropriate to the twenty-first century, after so many years in the 1980s and 1990s of disinvestment and underinvestment in our schools.
Mae'r rhain yn faterion sy'n cael eu harchwilio wrth i ni geisio symud y polisi yn ei flaen. Un o'r pethau rydym yn ymfalchïo ynddynt yw'r ffaith ein bod wedi adeiladu cymaint o ysgolion newydd ledled Cymru, ein bod wedi adnewyddu cynifer o ysgolion ledled Cymru ac y bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn parhau. Yn gynyddol ledled Cymru, rydym yn gweld mwy a mwy o blant, a mwy a mwy o athrawon, yn cael eu dysgu mewn cyfleusterau sy'n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ar ôl cymaint o flynyddoedd yn y 1980au a'r 1990au o ddadfuddsoddi a thanfuddsoddi yn ein hysgolion.
Well, I don't agree that it's been kicked into the long grass. There is a general recognition that there needs to be a solution to the problems around the Brynglas tunnels. The process in terms of the black route continues, but that needs a proper inquiry - that needs proper examination. I am keen that other options are examined as well, as part of that public process. I'm in favour of the transparency that that would provide. In terms of the Severn tolls, we don't control them. We think we should control them and, if we did control them, we'd abolish the tolls.
Wel, nid wyf yn cytuno ei fod wedi'i roi i'r naill ochr. Ceir cydnabyddiaeth gyffredinol fod angen ateb i'r problemau sy'n ymwneud â thwnelau Bryn-glas. Mae'r broses o ran y llwybr du'n parhau, ond mae angen ymchwiliad priodol i hynny - mae angen ei archwilio'n briodol. Rwy'n awyddus i opsiynau eraill gael eu harchwilio hefyd fel rhan o'r broses gyhoeddus honno. Rwyf o blaid y tryloywder y byddai hynny'n ei ddarparu. O ran tollau'r Hafren, nid ni sy'n eu rheoli. Rydym yn credu mai ni ddylai eu rheoli a phe baem yn eu rheoli, byddem yn diddymu'r tollau.
I fully accept the second point that the First Minister made and he will certainly have the full support of my own party in attempting to get rid of this major constriction on economic development in south Wales. But, as regards the M4 project, my party went into the last election on the basis of supporting the blue route rather than the black route. Our view is that the black route would be better than no route and we don't want to find ourselves in a situation, such as we've had for many years now in relation to the expansion of Heathrow Airport, where there's endless talk and no action. So, it seems to me that the proposal for this further public inquiry imposition is likely to produce interminable delays so that problems will only get worse and worse and worse. So, the answer to the steel industry's problems is partly constricted by this difficulty as well.
Rwy'n derbyn yr ail bwynt a wnaeth y Prif Weinidog a chaiff gefnogaeth lawn fy mhlaid, yn sicr, wrth geisio cael gwared ar y cyfyngiad mawr hwn ar ddatblygu economaidd yn ne Cymru. Ond o ran prosiect yr M4, aeth fy mhlaid i mewn i'r etholiad diwethaf ar sail cefnogi'r llwybr glas yn hytrach na'r llwybr du. Ein barn ni yw y byddai'r llwybr du yn well na dim llwybr, ac nid ydym am fod mewn sefyllfa, fel rydym wedi'i chael ers blynyddoedd lawer bellach mewn perthynas ag ehangu Maes Awyr Heathrow, lle ceir siarad diddiwedd a dim gweithredu. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yr argymhelliad i orfodi ymchwiliad cyhoeddus pellach yn debygol o greu oedi diderfyn, fel na fydd y problemau ond yn gwaethygu fwyfwy. Felly, mae'r ateb i broblemau'r diwydiant dur wedi'i gyfyngu'n rhannol gan yr anhawster hwn hefyd.
No, this is a legal requirement; it's not something that we can escape without the threat of judicial review and nor would we want to escape it. It is part of the process of moving forward with a solution to the issue of the Brynglas tunnels. I don't think it affects the steel industry in any way, shape or form, but it is right to say that, for many businesses, and, indeed, when we've looked at bringing major events into Cardiff, the issue is raised of congestion in the Brynglas tunnels. The other issue, of course, is that if the tolls disappear on the Severn bridge, the natural brake on traffic that exists there would simply be piled onto the Brynglas tunnels, making the situation worse. So, there is no easy solution other than to look at ways to bypass those tunnels.
Na, mae hwn yn ofyniad cyfreithiol; nid yw'n rhywbeth y gallwn ddianc rhagddo heb fygythiad o adolygiad barnwrol ac ni fyddem eisiau dianc rhagddo. Mae'n rhan o'r broses o symud ymlaen gydag ateb i broblem twnelau Bryn-glas. Nid wyf yn credu ei fod yn effeithio ar y diwydiant dur mewn unrhyw ffordd o fath yn y byd, ond mae'n iawn dweud, i lawer o fusnesau ac yn wir, pan edrychwyd ar ddod â digwyddiadau mawr i Gaerdydd, mae problem tagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas yn codi. Y broblem arall, wrth gwrs, os yw'r tollau ar bont Hafren yn diflannu, yw y byddai'r brêc naturiol ar draffig sy'n bodoli yno yn pentyrru ar dwnelau Bryn-glas, gan wneud y sefyllfa'n waeth. Felly, nid oes ateb hawdd ar wahân i edrych ar ffyrdd o osgoi'r twneli hynny.